Janet Finch-Saunders, Member of Welsh Parliament for Aberconwy, has paid a special visit to the home of PSS Shared Lives carer, Janet Smith, who cares for two people in her own home as part of the PSS Shared Lives scheme.
Shared Lives is often likened to fostering, but designed for adults who need a bit of extra support to live their most independent life. PSS Shared Lives matches specially trained carers, like Janet Smith and her husband Brian, with an adult (aged 18+) who needs support, and they all live together in the carer’s family home, like a family.
Janet, who has been a Shared Lives carer for over 20 years, currently supports brothers, Gareth, 65, and Medwyn, 61, alongside her husband, Brian, from their home in Aberconwy.
Mrs Finch-Saunders' visit happened with the aim of raising awareness about Shared Lives as an excellent career choice for people looking to make a difference in the lives of others from their own home. It’s also an effective and cost-efficient innovation in social care that’s been improving the lives of local people in North Wales for over 20 years.
Janet, who was 45 years old with a young family when she first decided to become a Shared Lives carer, said:
“It really benefited my children, who were six and 16 when Gareth and Medwyn first came to live with us. It meant they grew up to be compassionate, open minded people. It's no surprise that both my children went on to work in health and social care too.”
Janet Finch-Saunders, whose key focuses are making sure there’s more investment in health and social care services shared her reflections following the visit:
“Shared Lives provides the most personalised form of care I have seen in North Wales.
“It is wonderful how individuals requiring support become part of a family in the community and get to live as independently as possible.
“This model of care has the best interest of the individuals at heart. The bonus for local authorities in Wales is that it is actually considerably cheaper than putting people in care homes.
“With social care costs crippling the public sector, it is a no brainer for local authorities like Conwy County Borough Council to be referring more individuals to PSS”.
An independent review found that Shared Lives has the capacity to save local authorities substantially in comparison to supported living and residential care, ranging from £8,000 to £30,000 per person (depending on support needs) annually.
CEO Lesley Dixon of PSS expressed her hope that more people will take an interest in Shared Lives as a career choice, whether or not they’ve worked in the health and social care sector. Lesley said:
“I’m delighted Janet has been able to see the incredible impact of Shared Lives firsthand. We hope it encourages more genuine, big-hearted people to consider Shared Lives as a valid career option that allows them to make a difference in other people’s lives right from their front room”.
You don’t need qualifications to be a Shared Lives carer, just a spare room in your home and the motivation to provide top notch support to people who need it. All PSS Shared Lives carers go through comprehensive and ongoing training. While Shared Lives carers are self-employed, they are supported by a dedicated development worker and welcomed into a warm community of fellow carers and PSS colleagues.
Find out more about being a Shared Lives carer at: www.sharedlivescarers.com
ENDS
Photo: Janet, Janet, Gareth, and Medwyn
For media enquiries and further information, please contact communications and engagement manager, Carla Pearce at [email protected]
Notes for Editors
About PSS
PSS is a social enterprise that supports people to live happy, healthy and hopeful lives, whether they’re:
• adults who have learning or physical disabilities, challenges with their mental health or difficulties as they’re getting older;
• people in and around the criminal justice system; or
• families who’ve been through unsteady times.
No-matter who you are or where your life has taken you, we’ll listen, understand and find a way to help you reach your goals.
As an organisation we developed some of the best-known names in community support including Age Concern, the Citizen’s Advice Bureau and Legal Aid. Today our team is continuing our legacy of innovation. We sit alongside local government and NHS services plugging the gaps and providing support for a wide array of people.
In 2019 we celebrated our 100th birthday, but even as the years mount up, one thing’s for sure: we’re not slowing down with age.
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ymweld â chartref gofalwr Cysylltu Bywydau PSS, Janet Smith, sy'n gofalu am ddau berson yn ei chartref ei hun fel rhan o gynllun Cysylltu Bywydau PSS.
Mae Cysylltu Bywydau yn aml yn cael ei gymharu â maethu, ond wedi'i gynllunio ar gyfer oedolion sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i fyw eu bywyd mwyaf annibynnol. Mae Cysylltu Bywydau PSS yn paru gofalwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, fel Janet Smith a'i gŵr Brian, gydag oedolyn (18+ oed) sydd angen cymorth, ac maen nhw i gyd yn byw gyda'i gilydd yng nghartref teulu'r gofalwr, fel teulu.
Ar hyn o bryd mae Janet, sydd wedi bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau ers dros 20 mlynedd, yn cefnogi brodyr, Gareth, 65, a Medwyn, 61, ochr yn ochr â'i gŵr, Brian, o'u cartref yn Aberconwy.
Cynhaliwyd ymweliad Mrs Finch-Saunders gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o Cysylltu Bywydau fel dewis gyrfa ardderchog i bobl sy'n dymuno gwneud gwahaniaeth ym mywydau eraill o'u cartrefi eu hunain. Mae hefyd yn ddull arloesol effeithiol a chost-effeithlon ym maes gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn gwella bywydau pobl leol yng Ngogledd Cymru ers dros 20 mlynedd.
Dywedodd Janet, a oedd yn 45 oed gyda theulu ifanc pan benderfynodd ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau am y tro cyntaf:
"Roedd o fudd mawr i fy mhlant, oedd yn chwech ac yn 16 oed pan ddaeth Gareth a Medwyn i fyw gyda ni gyntaf. Roedd yn golygu eu bod yn tyfu i fod yn bobl dosturiol, agored eu meddwl. Dyw hi ddim yn syndod bod fy nau blentyn wedi mynd ymlaen i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol hefyd."
Meddai Janet Finch-Saunders, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar sicrhau bod mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd a gofal yn dilyn yr ymweliad:
"Mae Cysylltu Bywydau yn darparu'r math mwyaf personol o ofal yr wyf wedi'i weld yng Ngogledd Cymru.
"Mae'n wych sut mae unigolion sydd angen cymorth yn dod yn rhan o deulu yn y gymuned ac yn cael byw mor annibynnol â phosib.
"Buddiannau gorau yr unigolion sydd wrth wraidd y model hwn. Bonws i awdurdodau lleol yng Nghymru yw ei bod yn llawer rhatach na rhoi pobl mewn cartrefi gofal.
"Gyda chostau gofal cymdeithasol yn llesteirio’r sector cyhoeddus, mae’n naturiol i awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod yn cyfeirio mwy o unigolion at PSS".
Canfu adolygiad annibynnol fod gan Cysylltu Bywydau y gallu i arbed llawer o arian awdurdodau lleol o gymharu â byw â chymorth a gofal preswyl, yn amrywio o £8,000 i £30,000 y pen (yn dibynnu ar anghenion cymorth) yn flynyddol.
Mynegodd Prif Swyddog Gweithredol PSS, Lesley Dixon, ei gobaith y bydd mwy o bobl yn cymryd diddordeb mewn Cysylltu Bywydau fel dewis gyrfa, p'un a ydyn nhw wedi gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ai peidio. Meddai Lesley:
"Rwy'n falch iawn bod Janet wedi gallu gweld effaith anhygoel Cysylltu Bywydau yn uniongyrchol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl ddiffuant, gyda chalon fawr i ystyried Cysylltu Bywydau fel opsiwn gyrfa dilys sy'n eu galluogi i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl eraill o'u hystafell fyw".
Nid oes angen cymwysterau arnoch i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau, dim ond ystafell sbâr yn eich cartref a'r cymhelliant i ddarparu cefnogaeth o'r radd flaenaf i bobl sydd angen hynny. Mae holl ofalwyr Cysylltu Bywydau PSS yn mynd trwy hyfforddiant cynhwysfawr a pharhaus. Er bod gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hunangyflogedig, cânt eu cefnogi gan weithiwr datblygu ymroddedig a'u croesawu i gymuned gyfeillgar ac agos o gyd-ofalwyr a chydweithwyr PSS.
Dysgwch fwy am fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn: www.sharedlivescarers.com
DIWEDD
Llun: Janet, Janet, Gareth, a Medwyn
Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â'r rheolwr cyfathrebu ac ymgysylltu, Carla Pearce yn [email protected]
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn â PSS
Mae PSS yn fenter gymdeithasol sy'n cefnogi pobl i fyw bywydau hapus, iach a gobeithiol, p'un a ydyn nhw’n:
- oedolion sydd ag anableddau dysgu neu gorfforol, heriau gyda'u hiechyd meddwl neu anawsterau wrth iddyn nhw heneiddio;
- pobl yn y system cyfiawnder troseddol ac o’i chwmpas; neu
- deuluoedd sydd wedi bod drwy gyfnodau ansicr.
Ni waeth pwy ydych chi na ble mae’ch bywyd wedi mynd â chi, byddwn yn gwrando, yn deall ac yn dod o hyd i ffordd i'ch helpu i gyrraedd eich nodau.
Fel sefydliad, rydym wedi datblygu rhai o'r enwau mwyaf adnabyddus mewn cymorth cymunedol gan gynnwys Age Concern, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a Chymorth Cyfreithiol.
Heddiw mae ein tîm yn parhau â'n hetifeddiaeth o arloesi. Rydyn ni’n eistedd ochr yn ochr â llywodraeth leol a gwasanaethau'r GIG gan lenwi'r bylchau a darparu cefnogaeth i amrywiaeth eang o bobl.
Yn 2019 roedden ni’n dathlu ein pen-blwydd yn 100 oed, ond er bod y blynyddoedd yn mynd heibio, mae un peth yn sicr: dydyn ni ddim yn arafu gydag oedran.