Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is saddened to hear that cancer patients in Wales are waiting longer for care than in other Western countries.
Scientists at University College London analysed data from Australia, Canada, Norway, and the UK. The study involved examining approximately 780,000 individuals, focusing on the percentage of people receiving chemotherapy or radiotherapy and the associated waiting times.
The study found that Wales faced longer waiting times to start treatment at an average of 81 days for radiotherapy compared with 79 days in Scotland, 63 days in England and just 44 in Norway. Waiting times for chemotherapy in Wales were also long at 58 days compared with 48 days in England, 43 days in Australia and just 39 days in Norway. However, Scotland was higher at 65 days.
Simon Scheeres, from Cancer Research UK in Wales, emphasised that the “report signals that Wales must move further and faster to keep up with comparable countries, which see better cancer outcomes.”
Commenting on the news Janet said:
“Timing plays a vital role when it comes to cancer treatments and this latest report shows that yet again the Welsh NHS is severely behind our friends around the world.
“We need to tackle this head on by examining the factors behind variations in cancer services and exploring their impact on patients in Wales.
“The NHS is in great difficulty and there are significant challenges that exist, primarily due to limitations in staffing capacity and financial constraints.
“The challenge is not a money one but a resource one. We must identify efficiencies and streamline processes from diagnosis to treatment. Through reforming existing resources, we can minimise disparities across Wales.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn drist o glywed bod cleifion canser yng Nghymru yn aros yn hirach am ofal nag mewn gwledydd eraill y gorllewin.
Bu gwyddonwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn dadansoddi data o Awstralia, Canada, Norwy a'r DU. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys archwilio tua 780,000 o unigolion, gan ganolbwyntio ar ganran y bobl sy'n derbyn cemotherapi neu radiotherapi a'r amseroedd aros cysylltiedig.
Canfu'r astudiaeth fod Cymru yn wynebu amseroedd aros hirach i ddechrau triniaeth, sef 81 diwrnod ar gyfartaledd ar gyfer radiotherapi o'i gymharu â 79 diwrnod yn yr Alban, 63 diwrnod yn Lloegr a dim ond 44 yn Norwy. Roedd amseroedd aros am gemotherapi yng Nghymru hefyd yn hir, sef 58 diwrnod o'i gymharu â 48 diwrnod yn Lloegr, 43 diwrnod yn Awstralia a dim ond 39 diwrnod yn Norwy. Fodd bynnag, roedd yr Alban yn uwch gyda 65 diwrnod.
Pwysleisiodd Simon Scheeres, o Cancer Research UK yng Nghymru, fod yr adroddiad yn arwydd bod yn rhaid i Gymru symud ymhellach ac yn gyflymach i efelychu gwledydd tebyg, sy'n gweld canlyniadau canser gwell.”
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
“Mae amseru yn chwarae rhan hanfodol o ran triniaethau canser ac mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn dangos bod GIG Cymru unwaith eto y tu ôl i'n ffrindiau ar draws y byd.
“Mae angen i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa hon drwy archwilio'r ffactorau y tu ôl i amrywiadau mewn gwasanaethau canser ac archwilio eu heffaith ar gleifion yng Nghymru.
“Mae'r GIG yn wynebu anawsterau mawr ac mae heriau sylweddol yn bodoli, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau capasiti staff a chyfyngiadau ariannol.
“Her adnoddau yw hon, nid un ariannol. Mae'n rhaid i ni nodi effeithlonrwydd a symleiddio prosesau o ddiagnosis i driniaeth. Drwy ddiwygio'r adnoddau presennol, gallwn leihau gwahaniaethau ar draws Cymru.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders