If Ukraine are unable to hold the Eurovision song contest at home in 2023, Janet Finch-Saunders MS/AS backs calls for the competition to be held here in Wales. Against the backdrop of a Russian invasion, Ukraine were successful in winning this year’s competition with the United Kingdom closely following in second place. However, it has raised questions over the safety of the contest being able to take place within its borders.
Commenting on yesterday’s Welsh Conservative debate on Eurovision, Janet said.
“Other than sporting events, the Eurovision Song Contest is one of the most watched annual international television events in the world, drawing in 600 million viewers each year. In light of the war in Ukraine, this year has been a kindly reminder of how important events such as Eurovision can be. There’s nothing more I want to see than Ukraine host it next year, but in the scenario where they cannot, Wales would be more than willing to facilitate Ukraine being the host nation in Wales.
If held in Wales, I want to see profits from Eurovision donated to charities in Ukraine and refugees given free tickets to attend the contest.”
Commenting further, Janet said.
“Over the past few months, Ukraine have shown their true determination and grit to be a beacon of freedom and democracy here in Europe.
Regardless of where and when the next Eurovision is held, this is another opportunity for us to join in solidarity with Ukraine and send a hard strong message to Russia.
Russia’s war campaign on European soil, will not go unpunished. Putin and his military generals will answer for the war crimes they have committed, and Wales and the United Kingdom will stand unwaveringly with its Ukrainian ally until every last tank, solider, fighter jet and naval ship has left Ukraine for good.”
CYMRAEG:
Janet Finch-Saunders o blaid cynnal cystadleuaeth Eurovision yng Nghymru os na all Wcráin ei chynnal yn 2023
Os nad yw Wcráin yn gallu cynnal cystadleuaeth Eurovision yn 2023, mae Janet Finch-Saunders AS, am weld y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yma yng Nghymru. Yng nghanol goresgyniad Rwsia, enillodd Wcráin gystadleuaeth eleni, gyda’r Deyrnas Unedig yn ail agos. Fodd bynnag, mae wedi codi cwestiynau ynghylch diogelwch cynnal y gystadleuaeth o fewn ffiniau’r wlad.
Yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Eurovision, dywedodd Janet:
“Heblaw am ddigwyddiadau chwaraeon, Cystadleuaeth Eurovision yw un o’r digwyddiadau teledu rhyngwladol blynyddol mwyaf poblogaidd yn y byd, gyda 600 miliwn yn ei gwylio ar y teledu bob blwyddyn. O ystyried y rhyfel yn Wcráin, mae eleni wedi’n hatgoffa pa mor bwysig yw digwyddiadau fel Eurovision. Does dim mwy yr hoffwn ei weld nag Wcráin yn ei chynnal y flwyddyn nesaf, ond os na fyddant yn gallu gwneud hynny, byddai Cymru yn fwy na pharod i helpu Wcráin ei chynnal yma yng Nghymru.
Pe bai’n cael ei chynnal yng Nghymru, byddwn am weld yr elw o Eurovision yn cael ei roi i elusennau yn Wcráin a ffoaduriaid yn cael tocynnau i’r gystadleuaeth am ddim.”
Ychwanegodd Janet:
“Dros y misoedd diwethaf, mae Wcráin wedi dangos eu penderfyniad a’r dewrder i chwifio baner rhyddid a democratiaeth yn Ewrop.
Dim ots ble na phryd y cynhelir yr Eurovision nesaf, dyma gyfle arall i ni sefyll mewn undod ag Wcráin ac anfon neges gadarn at Rwsia.
Ni fydd ymgyrch rhyfel Rwsia ar dir Ewropeaidd yn cael digwydd heb ei chosbi. Bydd Putin a’i gadfridogion yn atebol am y troseddau rhyfel sydd wedi’u cyflawni, a bydd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn sefyll yn gadarn law yn llaw ag Wcráin tan i bob tanc, pob milwr, pob awyren rhyfel a phob llong rhyfel adael Wcráin unwaith ac am byth.”