Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy yesterday spoke following the statement by the Cabinet Secretary for Finance announcing the beginning of the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Bill.
In his opening statement Mark Drakeford MS announced that a £1.25 per night tourism tax should be introduced in Wales from 2027. If councils choose to implement it, guests staying in hotels, B&Bs, and self-catered accommodations would be required to pay a visitor levy. For hostels and campsites, a reduced rate of 75p would apply.
According to the Welsh Government, the funds generated would support services in popular tourism areas. However, it could discourage visitors.
The levy would be charged per person, per night, including children. Councils could also charge more in future if they go through a consultation process and give 12 months' notice.
Commenting on the statement Janet said:
“I am deeply saddened by the news that the Welsh Government plan to proceed with yet another tax and measure to stifle tourism in Wales.
“Our tourism industry is crucial to Wales’s economic growth, accounting for £3.4 billion annually and it will put at risk jobs in the sector, which employs 159,000 people - nearly 12% of Wales' workforce.
“A survey by the Wales Tourism Alliance revealed that 70% of visitors might choose to holiday elsewhere if a tourism tax is introduced.
“Furthermore, this tax will likely encourage tourists to opt for day visits to avoid the charge. The fact of the matter is that overnight visitors contribute the most to local businesses through evening meals, drinks, and paying for accommodation, providing vital support to the local economy.
“Aberconwy depends on tourism in a way many fail to grasp. It is our lifeblood, and this tax threatens to disrupt that vital flow.”
ENDS
Ddoe, bu Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn siarad yn dilyn datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cyhoeddi dechrau'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc (Cymru).
Yn ei ddatganiad agoriadol cyhoeddodd Mark Drakeford AS y dylid cyflwyno treth dwristiaeth o £1.25 y nos yng Nghymru o 2027 ymlaen. Os yw cynghorau'n dewis ei gweithredu, byddai'n ofynnol i bobl sy'n aros mewn gwestai, llety gwely a brecwast a llety hunanarlwyo dalu ardoll ymwelwyr. Ar gyfer hosteli a meysydd gwersylla, byddai cyfradd is o 75c ar waith.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai'r arian sy'n cael ei gynhyrchu yn cefnogi gwasanaethau mewn ardaloedd twristiaeth poblogaidd. Fodd bynnag, gallai atal ymwelwyr.
Byddai'r ardoll yn cael ei chodi fesul person, fesul noson, a byddai’n cael ei chodi ar blant hefyd. Gallai cynghorau hefyd godi mwy yn y dyfodol os ydyn nhw'n mynd trwy broses ymgynghori ac yn rhoi 12 mis o rybudd.
Wrth gyfeirio at y datganiad dywedodd Janet:
"Rwy'n drist iawn clywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â threth a mesur arall eto fyth i lesteirio twristiaeth yng Nghymru.
"Mae ein diwydiant twristiaeth yn hanfodol i dwf economaidd Cymru, ac mae i gyfrif am £3.4 biliwn bob blwyddyn. Bydd hyn yn peryglu swyddi yn y sector, sy'n cyflogi 159,000 o bobl - bron i 12% o weithlu Cymru.
"Dangosodd arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru y gallai 70% o ymwelwyr ddewis mynd ar wyliau i fannau eraill os cyflwynir treth dwristiaeth.
"Ar ben hynny, bydd y dreth hon yn debygol o annog twristiaid i ddewis ymweliadau dydd er mwyn osgoi'r tâl. Y gwir amdani yw mai ymwelwyr dros nos sy’n cyfrannu fwyaf at fusnesau lleol drwy brydau a diodydd gyda'r nos, a thrwy dalu am lety, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i'r economi leol.
"Mae Aberconwy yn dibynnu ar dwristiaeth mewn ffordd nad yw llawer o bobl yn gallu ei amgyffred. Mae wrth galon ein hardal, ac mae'r dreth hon yn bygwth atal y galon honno."
DIWEDD