Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has called for the default 20mph speed limit on restricted roads across Wales, introduced by Welsh Labour and Plaid Cymru on 17 September 2023, to be scrapped.
The calls come as both candidates vying to replace Mark Drakeford MS as First Minister, have committed to see a review of the speed limits if they are elected.
Mr Drakeford will step down as leader on March 2024.
Commenting on the default 20mph limit in Aberconwy, Janet said:
“Whoever is the next Labour First Minister for Wales, we are almost guaranteed a review of the default 20mph speed limit.
“The campaign against the rollout last September is working, with the Welsh Labour resolve faltering.
“The worse thing about this shifting position in Welsh Labour is that the introduction of 20mph has cost around £30 million. Clearly, tax payers money has been wasted, and local authorities across Wales should be contacted to ask for all the old signs to be preserved for future use.”
ENDS
Photo:
Janet Finch-Saunders MS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi galw am gael gwared ar y terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru, a gyflwynwyd gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru ar 17 Medi 2023.
Daw'r galwadau wrth i'r ddau ymgeisydd sy'n cystadlu i gymryd lle Mark Drakeford AS fel Prif Weinidog, ymrwymo i adolygiad o'r terfyn cyflymder os cânt eu hethol.
Bydd Mr Drakeford yn rhoi'r gorau i'w swydd fel arweinydd ym mis Mawrth 2024.
Wrth sôn am y terfyn 20mya diofyn yn Aberconwy, dywedodd Janet:
“Pwy bynnag yw Prif Weinidog Llafur nesaf Cymru, mae bron yn sicr y bydd yna adolygiad o'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
“Mae'r ymgyrch yn erbyn cyflwyno'r terfyn fis Medi diwethaf yn gweithio, gyda phenderfyniad Llafur Cymru yn gwegian.
“Y peth gwaethaf am y sefyllfa newidiol hon yn Llafur Cymru yw bod cyflwyno 20mya wedi costio tua £30 miliwn. Yn amlwg, mae arian trethdalwyr wedi'i wastraffu, a dylid cysylltu ag awdurdodau lleol ledled Cymru i ofyn i'r hen arwyddion gael eu cadw i'w defnyddio yn y dyfodol.”
DIWEDD