Welsh Government have been labelled “globally irresponsible” after disclosing to Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, that they have not made an assessment of the impact of Ffos-y- Frân closure on coal imports to the United Kingdom.
Ffos-y- Frân is a coal mine in Merthyr Tydfil, South Wales. It is the UK’s largest opencast coal mine, and has a confirmed closure date of the 30th November following the expiry of its 15 year license.
Between January and March 2023, 66,357 tonnes of coal was produced in Ffos-y- Frân – the highest in the UK. It’s closure will make Wales heavily reliant on imports, and make 180 jobs redundant.
The Welsh Government has not reviewed or assessed the impact the closure will have on imports of coal into Wales and the United Kingdom.
This is a potential breach of the Well-being of Future Generations (Wales) Act. The Welsh Government have a responsibility under this act to create a globally responsible Wales: a nation which, when doing anything to improve the economic, social, environmental and cultural well-being of Wales, takes account of whether doing such a thing may make a positive contribution to global well-being.
Commenting on the response received from the Welsh Government, Janet said:
“Wales, and the United Kingdom, still requires the use of coal. It is more responsible to internally mine coal that we know is obtained in a legal, ethical way, than to outsource to international mines that we have limited knowledge on.
“It is wrong to offshore carbon footprints to other, poorer and less developed nations, than ours. Coal still has an important role to play in both our community and economy.
“Our reality is that we cannot simply stop using coal now, and the coal we use should be Welsh.
“It is apparent to me that the Welsh Government are being globally irresponsible by not assessing the impact of the mine’s closure on our nation’s dependence on importance, and the impact we have on the environment.”
Written Question by Janet Finch-Saunders MS/AS:
What assessment has the Welsh Government made of the impact of Ffos-y-Fran on coal imports into the United Kingdom? (WQ88930)
Response from Julie James MS/AS, Minister for Climate Change:
“We have not made any assessment of the impact of Ffos-y-Frân on coal imports into the United Kingdom. From the grant of planning permission for coal extraction at Ffos-y-Frân in 2005, the expiry of that permission was always due to occur by 2022. This was transparent and well known and there is therefore no need for any impact assessment now. Our Coal policy issued in March 2021 is clear: we wish to bring the extraction and use of coal to a managed end”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei labelu yn "anghyfrifol yn fyd-eang" ar ôl datgelu i Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, nad ydyw wedi cynnal asesiad o effaith cau Ffos-y-Frân ar fewnforio glo i'r Deyrnas Unedig.
Pwll glo ym Merthyr Tudful, De Cymru, yw Ffos-y-Frân. Dyma waith glo brig mwyaf y DU, a chadarnhawyd y bydd yn cau ar 30 Tachwedd ar ôl i'w drwydded 15 mlynedd ddod i ben.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, cynhyrchwyd 66,357 tunnell o lo yn Ffos-y-Frân – y cynhyrchiant mwyaf yn y DU. Bydd ei gau yn golygu y bydd Cymru dibynnu'n drwm ar fewnforion, ac yn dileu 180 o swyddi.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu nac asesu'r effaith y bydd y cau yn ei chael ar fewnforion glo i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Mae hyn yn achos posibl o fynd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb o dan y ddeddf hon i greu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang: cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud y fath beth gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Wrth sôn am yr ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
"Mae Cymru, a'r Deyrnas Unedig, yn dal i fod angen defnyddio glo. Mae'n fwy cyfrifol i gloddio glo yn y wlad gan ein bod yn gwybod ei fod yn cael ei gloddio mewn ffordd gyfreithiol, foesegol, na defnyddio mwyngloddiau rhyngwladol nad oes gennym fawr ddim gwybodaeth amdanyn nhw.
"Dyw hi ddim yn iawn cynyddu olion traed carbon cenhedloedd eraill, sy’n dlotach ac yn llai datblygedig na ni. Mae glo yn parhau i fod yn bwysig i’n cymuned a'n heconomi.
"Y realiti yw na allwn ni roi'r gorau i ddefnyddio glo nawr, a dylai'r glo rydyn ni'n ei ddefnyddio fod o Gymru.
"Mae'n amlwg i mi fod Llywodraeth Cymru yn bod yn anghyfrifol yn fyd-eang drwy beidio ag asesu effaith cau'r pwll ar ddibyniaeth ein cenedl ar fewnforio, a'r effaith rydyn ni'n ei chael ar yr amgylchedd."
Cwestiwn ysgrifenedig gan Janet Finch-Saunders AS:
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Ffos-y-Frân ar fewnforio glo i'r Deyrnas Unedig? (WQ88930)
Ymateb gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
"Nid ydym wedi gwneud unrhyw asesiad o effaith Ffos-y-Frân ar fewnforion glo i'r Deyrnas Unedig. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer mwyngloddio glo yn Ffos-y-Frân yn 2005, ac ers y dechrau roedd y caniatâd hwnnw i fod i ddod i ben erbyn 2022. Roedd hyn yn dryloyw ac yn adnabyddus ac felly nid oes angen unrhyw asesiad effaith nawr. Mae ein polisi glo a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 yn glir: rydym am roi diwedd ar gloddio a defnyddio glo mewn ffordd reoledig.”