Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken in anger at the shocking spend on repairing the Welsh Government’s buildings in Llandudno Junction.
As a long-term proponent of tackling the waste of resources, the Member for Aberconwy has previously proven that the Welsh Government offices in Llandudno Junction are a white elephant.
Recently, she disclosed that the average monthly running costs for the Llandudno Junction office were £136,895 in 2020/21 and £130,967 in 2021/22.
The Member has now unearthed that the annual repair costs of the offices are as follows:
- 2018/19: £224,000
- 2019/20: £194,000
- 2020/21: £103,000
- 2021/22: £182,000
Commenting on the cost of repairs, Janet said:
“The Welsh Labour Government should hold their heads in shame that an average of £175,750 has been spent on repairing the building every year for the last four financial years.
“It is not as if it is an old complex. In fact, it was built in 2010 at a cost of around £23 million of taxpayers’ pounds, so it beggars belief that almost two hundred thousand is spent on repairing the place annually.
“There needs to be a thorough investigation into the spend by the Welsh Government on its North Wales headquarters.
“While people are struggling to make ends meet, it is scandalous that Mark Drakeford MS, First Minister, and Rebecca Evans MS, Minister for Finance and Local Government, are allowing their financial black hole to go unplugged. Just imagine the positive difference £703,000 could have made if it had been spent on the community of Llandudno Junction rather than the Welsh Government vanity project in Aberconwy”.
ENDS
______________________________________________________________________________________________
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi mynegi ei sioc a'i dicter am yr holl arian a wariwyd ar drwsio adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
Fel llefarydd hirdymor ar daclo gwastraff adnoddau, mae'r Aelod dros Aberconwy eisoes wedi profi mai 'eliffant gwynt' ydy swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y Gyffordd.
Yn ddiweddar, datgelodd mai £136,895 oedd y costau misol ar gyfartaledd ar gyfer swyddfa Cyffordd Llandudno yn 2020/21 a £130,967 yn 2021/22.
Mae'r Aelod bellach wedi datgelu mai costau atgyweirio blynyddol y swyddfeydd oedd:
- 2018/19: £224,000
- 2019/20: £194,000
- 2020/21: £103,000
- 2021/22: £182,000
Wrth sôn am gostau trwsio, dywedodd Janet:
“Dylai Llywodraeth Lafur Cymru gywilyddio bod £175,750 ar gyfartaledd wedi ei wario ar drwsio'r adeilad bob blwyddyn ers y pedair blynedd ariannol ddiwethaf.
“Nid hen adeilad mohono. Yn wir, fe'i hadeiladwyd yn 2010 ar gost o oddeutu £23 miliwn o arian y trethdalwyr, felly mae'n anodd credu fod bron i ddau gan mil yn cael ei wario ar drwsio'r lle bob blwyddyn.
“Mae angen ymchwiliad trylwyr i'r gwariant gan Lywodraeth Cymru ar bencadlys y Gogledd.
“Tra bod pobl yn ei chael yn anodd cadw dau ben llinyn ynghyd, mae'n warthus bod Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, a Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn caniatáu i'w twll du ariannol fynd o ddrwg i waeth. Dychmygwch y gwahaniaeth cadarnhaol y gallai £703,000 fod wedi ei wneud pe bai wedi cael ei wario ar gymuned y Gyffordd yn hytrach na phrosiect ymffrostgar Llywodraeth Cymru yn Aberconwy.
DIWEDD
Cwestiwn ysgrifenedig i Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog nodi faint gafodd ei wario ar waith atgyweirio yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno yn ystod y blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20, 2020-21, a 2021-22 fesul blwyddyn?
Ymateb y Gweinidog:
Dyma'r gost atgyweirio flynyddol ar gyfer adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20, 2020-21 a 2021-22:
Blwyddyn Cyfanswm atgyweirio a chyfnewid
2018-19 224,000
2019-20 194,000
2020-21 103,000
2021-22 182,000
Ffigurau wedi'u talgrynnu i'r mil agosaf