
Janet Finch-Saunders MS has responded to the Welsh Government’s announcement of an additional £100,000 to support the development of Seagrass Network Cymru’s (SNC) National Seagrass Action Plan, highlighting concerns that this investment fails to address the wider issue of Wales’s missing National Marine Development Plan.
Seagrass is a vital habitat that plays a key role in carbon storage, flood protection, and biodiversity enhancement. However, there are two major gaps in the Welsh Government’s approach.
Commenting on the news Janet said:
“Restoring seagrass and saltmarsh habitats is vital in tackling the climate and biodiversity emergencies, and I welcome this investment. Seagrass plays a crucial role in carbon storage, flood protection, and increasing marine biodiversity, and I fully support efforts to enhance its recovery along the Welsh coastline.
“However, this announcement once again misses the elephant in the room: Wales still lacks a National Marine Development Plan. Without this, we have no clear vision for managing our marine resources effectively.
“Additionally, the Welsh Government has failed to outline which areas of the seabed will be allocated for seagrass restoration, leaving significant gaps in the strategy.
“If the Welsh Government is serious about restoring marine habitats, it must go beyond piecemeal funding announcements and deliver a comprehensive, well-defined plan for our seas. Only then can we ensure long-term success in seagrass restoration and wider marine conservation efforts.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am £100,000 yn ychwanegol i gefnogi datblygu Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol Rhwydwaith Morwellt Cymru (SNC), gan fynegi pryderon nad yw'r buddsoddiad hwn yn mynd i'r afael â phroblem ehangach - sef diffyg Cynllun Datblygu Morol Cenedlaethol i Gymru.
Mae morwellt yn gynefin hanfodol sy'n allweddol o ran storio carbon, amddiffyn rhag llifogydd a gwella bioamrywiaeth. Fodd bynnag, mae dau fwlch amlwg yng nghynllun Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i’r newydd, dywedodd Janet:
“Mae adfer cynefinoedd morwellt a morfeydd heli yn hollbwysig wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, ac rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwn. Mae morwellt yn gwneud cyfraniad hanfodol at storio carbon, amddiffyn rhag llifogydd, a chynyddu bioamrywiaeth forol, ac rwy'n llwyr gefnogi ymdrechion i wella ei adferiad ar hyd arfordir Cymru.
“Fodd bynnag, mae gwendid amlwg yn y cyhoeddiad hwn: y ffaith nad oes gan Gymru Cynllun Datblygu Morol Cenedlaethol eto fyth. Heb hyn, nid oes gennym weledigaeth glir ar gyfer rheoli ein hadnoddau morol yn effeithiol.
“Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag amlinellu pa rannau o wely'r môr fydd yn cael eu dyrannu ar gyfer adfer morwellt, gan adael bylchau sylweddol yn y strategaeth.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifri am adfer cynefinoedd morol, rhaid iddi fynd y tu hwnt i gyhoeddiadau cyllid tameidiog a chyflwyno cynllun cynhwysfawr, wedi'i ddiffinio'n dda ar gyfer ein moroedd. Dim ond wedyn y gallwn ni sicrhau llwyddiant hirdymor adfer morwellt ac ymdrechion cadwraeth morol ehangach.”
DIWEDD