Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is disappointed to see that the UK Parliament have voted in favour of proposals to legalise assisted dying in England and Wales.
The bill - called the Terminally Ill Adults (End of Life) Bill - would make it legal for over-18s who are terminally ill to be given assistance to end their own life. Under the terms of the bill, a terminally ill adult with a life expectancy of six months or less could seek assistance to end their life, provided that two doctors and a High Court judge approve their decision.
After five hours of intense and heartfelt debate, in which some members of parliament were brought to tears, the Bill was progressed in the House of Commons with 330 voting in favour and 275 against.
Commenting on the news Janet said:
“As many will know the Senedd debated and voted on this very topic with the eventual tally being 19 for and 26 against.
“Senedd members, including First Minister Eluned Morgan and Health Secretary Jeremy Miles, voted against the motion calling for a new law to allow assisted dying in Wales and England.
“Advocates of assisted dying stress autonomy and compassion, but we must weigh the wider implications, including mental health, capacity, and the risk of expanding criteria.
“In Canada, concerns have grown over a 30% rise in assisted deaths following the 2021 law change allowing non-terminal but incurable conditions.
“I look forward to continued debates on this topic, along with months of scrutiny by MPs and peers who may propose amendments. Ultimately, the bill will require final approval from both Houses of Parliament to become law.”
END
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn siomedig o weld bod Senedd y DU wedi pleidleisio o blaid cynigion i gyfreithloni cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.
Byddai'r bil – y Bil Oedolion â Salwch Angheuol (Diwedd Oes) - yn ei gwneud hi'n gyfreithlon i bobl dros 18 oed sydd â salwch angheuol gael cymorth i ddod â'u bywydau eu hunain i ben. O dan delerau'r bil, gallai oedolion â salwch angheuol sydd â disgwyliad oes o chwe mis neu lai ofyn am gymorth i ddod â'u bywydau i ben, ar yr amod bod dau feddyg a barnwr Uchel Lys yn cymeradwyo eu penderfyniad.
Ar ôl pum awr o drafod dwys a theimladwy, gyda rhai Aelodau Seneddol yn eu dagrau, cafodd y Bil ei basio yn Nhŷ'r Cyffredin gyda 330 yn pleidleisio o blaid a 275 yn erbyn.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
"Fel y bydd llawer yn gwybod, bu’r Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar yr union bwnc hwn gyda'r nifer yn y pen draw yn 19 o blaid a 26 yn erbyn.
"Fe bleidleisiodd Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys y Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn erbyn y cynnig yn galw am ddeddf newydd i ganiatáu cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.
"Mae’r rhai o blaid cymorth i farw yn pwysleisio ymreolaeth a thosturi fel rhesymau, ond rhaid i ni bwyso a mesur y goblygiadau ehangach, gan gynnwys iechyd meddwl, galluedd, a'r risg o ehangu’r meini prawf.
“Yng Nghanada, mae yna bryderon ynghylch cynnydd o 30% mewn marwolaethau â chymorth yn dilyn newid y gyfraith yn 2021 er mwyn caniatáu cyflyrau nad ydyn nhw’n angheuol ond na ellir eu gwella.
"Edrychaf ymlaen at ddadleuon parhaus ar y pwnc hwn, ynghyd â misoedd o graffu gan Aelodau Seneddol a chan yr Arglwyddi a all gynnig gwelliannau. Yn y pen draw, bydd angen i’r bil gael sêl bendith derfynol dau Dŷ'r Senedd i ddod yn gyfraith."
DIWEDD