Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is today remembering the liberation of Auschwitz-Birkenau on 27 January 1945.
This solemn anniversary reminds us of the horrors of the Holocaust, where over 1.1 million people—primarily Jews—were brutally murdered by the Nazi regime.
In Poland, around 50 survivors, now in their late 80s and 90s, are returning to the site to honour the day Soviet troops liberated the camp. Their powerful message resonates across generations: "Never forget. Never again."
As their numbers dwindle, it becomes ever more critical to hear their testimonies, ensuring the atrocities committed are not lost to time.
Commenting on the anniversary Janet said:
“Auschwitz was a site of industrialised murder, where victims faced unspeakable cruelty. Families were torn apart, millions perished, and humanity was brought face-to-face with the depths of evil.
“Survivors who endured medical experiments and the loss of loved ones, stand as living reminders of the importance of fighting hatred and prejudice wherever they arise.
“As we reflect on this anniversary, it is vital to reaffirm our commitment to remembering the Holocaust, educating future generations, and combatting all forms of antisemitism and bigotry. The rise of extremism and Holocaust denial in recent years is deeply concerning and underscores the importance of continued vigilance.
“Here in Wales, we join the world in remembering the victims and honouring the survivors. Let us ensure their message of humanity and hope remains a guiding light for future generations.”
ENDS
Heddiw, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, yn cofio rhyddhau Auschwitz-Birkenau ar 27 Ionawr 1945.
Mae'r achlysur difrifol hwn yn ein hatgoffa o erchyllterau'r Holocost, lle cafodd dros 1.1 miliwn o bobl—Iddewon yn bennaf—eu llofruddio'n greulon gan y gyfundrefn Natsïaidd.
Yng Ngwlad Pwyl, mae tua 50 o oroeswyr, sydd bellach yn eu 80au hwyr a'u 90au, yn dychwelyd i'r safle i anrhydeddu'r diwrnod y daeth milwyr Sofietaidd i ryddhau'r gwersyll. Mae eu neges bwerus yn atseinio ar draws cenedlaethau: "Peidiwch byth ag anghofio. Byth eto."
Wrth i'w niferoedd leihau, mae'n dod yn bwysicach fyth clywed eu hanes, gan sicrhau nad yw'r erchyllterau a gyflawnwyd yn mynd yn angof gydag amser.
Wrth nodi’r achlysur, dywedodd Janet:
“Roedd Auschwitz yn safle o lofruddio ar raddfa ddiwydiannol, gyda dioddefwyr yn wynebu creulondeb annisgrifiadwy. Chwalwyd teuluoedd, lladdwyd miliynau a daeth dynoliaeth wyneb yn wyneb ag anfadwaith annirnadwy.
“Mae goroeswyr a ddioddefodd arbrofion meddygol a cholli anwyliaid yn ein hatgoffa ni o bwysigrwydd ymladd casineb a rhagfarn ble bynnag y maen nhw'n codi.
“Wrth i ni fyfyrio ar yr achlysur hwn, mae'n hanfodol ailddatgan ein hymrwymiad i gofio'r Holocost, addysgu cenedlaethau'r dyfodol a brwydro yn erbyn pob math o wrth-semitiaeth a rhagfarn. Mae’r cynnydd mewn eithafiaeth a gwadu'r Holocost yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn peri pryder mawr ac yn tanlinellu pwysigrwydd parhau i fod yn wyliadwrus.
“Yma yng Nghymru, rydyn ni'n ymuno â'r byd i gofio'r dioddefwyr ac anrhydeddu'r goroeswyr. Gadewch inni sicrhau bod eu neges o ddynoliaeth a gobaith yn parhau i oleuo'r ffordd i genedlaethau'r dyfodol.”
DIWEDD