Heddiw (02 Medi) mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig - Janet Finch-Saunders AS - wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am well hyfforddiant a chymorth ariannol i wella oes silff cig oen Cymru.
Daw llythyr Gweinidog yr Wrthblaid yn ystod Wythnos Caru Cig Oen sef 1-7 Medi 2020. Er i Hybu Cig Cymru adrodd am welliant bach mewn oes silff yn gynharach eleni o tua 21 diwrnod i 33 diwrnod, mae Seland Newydd yn parhau ar y blaen ar weddill y byd gydag oes silff o dros 60 diwrnod ar gyfer cig oen mewn pecyn gwactod ar gyfer yr oergell a hyd at 110 diwrnod ar gyfer cig oen wedi'i fflysio â nwy CO2. Bydd gwella oes silff yn cynyddu'r galw byd-eang am y cynnyrch.
Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:
“Yn ystod yr Wythnos Caru Cig Oen yma, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru ymrwymo i gynorthwyo’r gwaith o estyn oes silff cig oen Cymru fel y gall y cynnyrch blasus, maethlon ac amrywiol hwn fod yn gystadleuol yn rhyngwladol.
“Mae llwyddo i sicrhau oes silff hir yn dibynnu ar gael arferion glân a hylan ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â rheoli tymheredd yn dda ar ôl i'r anifail gael ei ladd.
"Ond er mwyn i hyn ddwyn ffrwyth, yn hwylus a phrydlon, rhaid i Lywodraeth Cymru gynnig gwell sianeli cyllid a chymorth hyfforddi.
“Mae gan y cynnyrch Cymreig eiconig hwn nodweddion arbennig na ellir eu hefelychu yn unman arall. Mae'n gynnyrch gwych a chynaliadwy, sy'n cyfrannu'n sylweddol at y diwydiant cig coch gwerth oddeutu £690 miliwn yng Nghymru.
“Trwy weithio'n ddyfal i estyn oes silff cig oen Cymru, byddem yn anfon arwydd pwerus o gefnogaeth i'r cynnyrch Cymreig arobryn hwn sy’n meddu ar statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, gan helpu i gynyddu allforion a fyddai o fudd mawr i'n cymunedau gwledig."
DIWEDD