Mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Materion Gwledig yr Wrthblaid – wedi cefnogi’r Wythnos Iechyd Meddwl Amaethyddiaeth – ac wedi atgoffa cymuned amaeth Cymru i ofyn am gymorth pan fo’i angen.
Meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae’r trafferthion y mae ffermwyr yn eu hwynebu, o TB buchol i’r pwysau sy’n effeithio ar sawl perchennog busnes, o brisiau syfrdanol isel gwlân defaid i’r unigrwydd sy’n wynebu llawer o ffermwyr – yn enwedig ers dechrau’r pandemig – yn broblemau llawer rhy fynych yn anffodus.”
“Ac felly, rwy’n llwyr gefnogi’r fenter wych hon i annog ein ffermwyr a phawb yn y sector amaethyddol i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt, boed gan un o’r elusennau yma yng Nghymru, gan eu hundeb amaethwyr, neu gan ffrind, oherwydd mae’n llesol siarad.
“Fodd bynnag, fel yr ydw i wedi’i ddweud yn y gorffennol, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Llafur Cymru i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth ddigidol, ar y teledu a’r radio sy’n cyfeirio ein ffermwyr at wasanaethau cwnsela a chymorth.”
Am gymorth ac arweiniad, chwiliwch am #AgMentalHealthWeek ar y cyfryngau cymdeithasol.
DIWEDD