Mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog, mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid a’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau y byddai unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar gyfer mabwysiadu Cynllun Dychwelyd Ernes yn sicrhau bod cloriau a chapiau plastig yn cael eu derbyn hefyd.
Yn gynharach eleni, sicrhaodd Mrs Finch-Saunders ymrwymiad gan y Prif Weinidog y bydd cynigion am gynllun dychwelyd ernes Cymru gyfan yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn yr Hydref.
Yn ymgyrchydd diflino ar y mater, defnyddiodd Gweinidog yr Wrthblaid gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Chweched Senedd i sicrhau ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ‘cyflawn’.
Gan roi sylwadau y tu allan i’r Siambr, dywedodd Janet:
“Fis Tachwedd y llynedd roeddwn i’n hynod falch o gael cyflwyno cynnig deddfwriaethol am Fil a fyddai’n gwneud darpariaethau ar gyfer cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes. Cefnogodd mwyafrif o 34 Aelod fy nghynnig.
“Yn fy sgyrsiau gyda chynhyrchwyr diodydd, mae wedi dod yn amlwg bod y sector yn parhau i gefnogi cyflwyno Cynllun sydd wedi’i gynllunio’n dda er mwyn sicrhau nad yw’n drysu unrhyw ddefnyddwyr. Byddai sicrhau bod unrhyw Gynllun yn cynnwys popeth yn sicrhau cysondeb ledled y DU, ond hefyd yn cynorthwyo gyda lefelau cymryd rhan.
“Rydym yn gwybod bod rhwng 77% ac 83% o gyfranogwyr mewn arolwg diweddar wedi dweud y byddent yn defnyddio Cynllun Dychwelyd Ernes fel arfer ar gyfer y pum math o gynwysyddion a nodwyd, gan gynnwys poteli plastig, ynghyd â photeli gwydr a thuniau metel ar gyfer pob diod ysgafn ac alcoholaidd.
“Ond mae angen cadarnhad y byddai cynllun o’r fath hefyd yn derbyn cloriau a chapiau plastig, yn enwedig o ystyried bod ymgyrch Great British Beach Clean 2021 y Gymdeithas Cadwraeth Forol wedi dod ar draws 18.7 clawr a chap fesul 100m o draeth, sy’n golygu eu bod yn parhau yn un o’r 5 eitem sbwriel mwyaf cyffredin a ganfuwyd yng Nghymru.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn mynychu ymgyrch glanhau traethau MCS yn Llandudno.