Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi cychwyn Wythnos Genedlaethol Coed y DU trwy alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y "goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle cywir am y rhesymau cywir”.
Daw'r ymyriad fel rhan o ymgyrch yr Aelod i geisio sicrhau nad yw plannu coed yn gwthio ffermwyr Cymru o’r neilltu, ac mae'n dilyn ei herthygl ddiweddar ar y sefyllfa lle galwodd am sefydlu Comisiwn Trawsnewid Cyfiawn i sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ysgwyddau cymunedau cefn gwlad nac yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg yn ei chadarnleoedd gwledig.
Mae'r ras i gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C a sicrhau targed sero net erbyn 2050 yn golygu bod cynnydd aruthrol mewn unigolion a busnesau sy'n ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau carbon, gan gynnwys drwy brynu ffermydd yng Nghymru er mwyn plannu coed.
Wrth sôn am yr argyfwng sy'n wynebu'r Gymru wledig, dywedodd Janet:
“Mae'n hanfodol bod Wythnos Genedlaethol Coed y DU yn cael ei defnyddio fel cyfle i dynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i ni sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle cywir am y rhesymau cywir.
“Os nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar fy nghais i ffurfio rhwyd ddiogelwch – Comisiwn Trawsnewid Cyfiawn – gallai plannu 180,000 hectar o goed erbyn 2050 arwain at golli 3,750 o ffermydd teuluol yma yng Nghymru.
“Byddai coedwigo cymaint o dir yn golygu ein bod yn colli'r cyfle i gynyddu'r broses dal a storio carbon yn y tymor hir drwy ddiogelu a gwella'r storfa bresennol ar diroedd fferm. Er enghraifft, gellir gwneud hyn drwy reoli coetiroedd, gwrychoedd, rhostiroedd, gwlyptiroedd a mawndiroedd yn well a chynyddu carbon organig pridd mewn glaswelltiroedd.
“Hefyd, mae pridd yn gallu storio carbon mewn modd mwy gwydn na choed oherwydd sychder cynyddol, tanau gwyllt a chlefydau, felly rwy'n cytuno â'r FUW bod diogelu ac adeiladu strwythur pridd drwy drin llai ar y tir, glaswelltiroedd sy'n gyfoethog o ran rhywogaethau, rheoli pori da byw a chynyddu gorchudd coed yn cynnig manteision niferus, gan gynnwys cynhyrchiant a bioamrywiaeth ar dir fferm.
“Mae'n ymddangos bod ewyllys drawsbleidiol i weithredu, a gallai'r Comisiwn a gynigir gennyf fod yn allweddol i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynghori ar y dulliau mwyaf addas.
“Mae angen gweithredu ar frys gan fod coedwigoedd yn disodli ffermwyr, a byddant yn achosi argyfwng carbon wrth i ni ddod hyd yn oed yn fwy dibynnol ar fwyd wedi'i fewnforio. Rhaid i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gofio po hiraf y mae'n osgoi gweithredu, po waethaf fydd y broblem yn y pen draw.
DIWEDD
Nodiadau: