Mae Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog, wedi annog awdurdodau lleol i ddangos doethineb wrth ystyried ceisiadau grant ardrethi busnes gan y sector hunanarlwyo, ac wedi dweud na fydd yn bachu’r grant yn ôl gan fusnesau a dderbyniodd gyllid cyn iddo newid y rheolau.
Gwnaed y datganiad mewn ymateb i'r her gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, mewn cyfarfod llawn ynghylch sut gall Llywodraeth Cymru gyfiawnhau bod llawer o fusnesau nawr yn gorfod bodloni meini prawf llym i gael gafael ar gyllid grant, tra bod eraill yn yr un sector ddim yn gorfod.
Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae’r broses ar gyfer dyrannu grantiau ardrethi busnes i fusnesau hunanarlwyo ledled Cymru yn llanast annheg.
“Dyw hi ddim yn iawn fod rhai llety gwyliau wedi derbyn y grant cyn i’r rheolau newydd ddod i rym, a bod eraill a wnaeth gais cyn y newid polisi ond sydd yn dal i aros am daliad, yn wynebu mwy o rwystrau nawr.
“Mae pob llety hunanarlwyo sydd wedi cofrestru ar gyfer ardrethi busnes wedi gwneud hynny yn unol â chanllawiau clir gan Lywodraeth Cymru, felly mae’r ffaith y gallai lleiafrif gymryd mantais o’r rheolau ar gyfer ail gartrefi cymwys yn broblem hanesyddol y mae’r Prif Weinidog wedi methu ei datrys.
“Wrth geisio dal y lleiafrif nawr, mae’r Prif Weinidog wedi creu sefyllfa flêr ledled Cymru.
“Rwy’n gwerthfawrogi bod awdurdodau lleol yn gallu arfer eu doethineb, a byddaf yn helpu llawer o fusnesau diffuant i gyflwyno achos i roi hynny ar waith. Fodd bynnag, ni ddylai’r sefyllfa fod wedi dod i hyn, gyda dyfodol ariannol mentrau wedi’i rhoi yn nwylo swyddogion sy’n asesu ledled Cymru ac a allai ddod i wahanol gasgliadau ar geisiadau.”
DIWEDD