Mae mwyafrif Aelodau Senedd Cymru a bleidleisiodd o blaid gwahardd smacio plant wedi’u disgrifio fel rhai sy’n dewis “pleidleisio i gosbi rhieni”.
Dyna oedd ymateb Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Plant, Pobl ifanc a Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, yn dilyn y ddadl derfynol ar Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Meddai yn ystod y ddadl:
“Mae’r wladwriaeth yn camu i mewn i fywydau preifat teuluoedd bellach… Ni ddylai gorfodi rhieni i wynebu atebolrwydd troseddol am smacio’u plant fod yn ateb cyntaf gan Lywodraeth ond yn hytrach yn ateb olaf.
Gallai dewisiadau amgen fod wedi cynnwys gwneud cosbi rhesymol yn drosedd sifil. Ond fel mae pethau nawr, os caiff rhieni a theuluoedd eu herlyn, gallent gael cofnod troseddol parhaol wedyn - gan niweidio eu cyfleoedd gwaith ac arwain at y posibilrwydd o berthynas yn chwalu maes o law.
Clywodd y Pwyllgor fod uwch-swyddogion yng Nghymru wedi rhybuddio y gallai gwaharddiad smacio arwain at gymryd plant oddi ar eu teuluoedd.
Ychwanegodd:
“Mae’r Aelodau wedi pleidleisio heddiw i gosbi rhieni.
“Mae hyn yn gryn ergyd i’r mwyafrif yng Nghymru sy’n gwrthwynebu’r gwaharddiad.
“Roedd ein harolwg ni’n dangos fod 79% o’r ymatebwyr yn erbyn y gwaharddiad. Yn ôl arolwg YouGov, roedd 69% yn credu na ddylid gwahardd smacio, ac rwy’n dal i dderbyn negeseuon di-ri o gefnogaeth gan rieni sy’n gwrthwynebu’r polisi cosbol anghyfrifol hwn”.
Yn ystod y ddadl, tynnodd yr Aelod sylw at lythyr a anfonwyd heddiw gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Lywodraeth Cymru, sy’n nodi pryderon clir y Pwyllgor fod cost y Bil wedi cynyddu o rhwng £2.3 miliwn a £3.7 miliwn i £6.2 miliwn - £7.9 miliwn.
Ychwanegodd yr Aelod:
“Bydd y newid yn y gyfraith yn ergyd i bob trethdalwr, gan ei bod wedi’i phasio heb wybod yr union gostau’n llawn.
“Os bydd fy ofnau am ragor o fwrn ar wasanaethau cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau, cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, a’r niwed i deuluoedd, yn dwyn ffrwyth, yna gallaf eich sicrhau y bydd yr etholwyr a minnau’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif”.
Nodiadau
Smacking ban: ‘The state should not be telling people how to parent’
New poll shows smacking ban is ineffective in New Zealand
Photo:
Janet Finch-Saunders AC yn ystod y ddadl heno