Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig am ymchwiliad brys pan ddatgelodd ffigurau ei bod yn ymddangos bod gan ddwy o ardaloedd gwaethaf y COVID-19 y nifer uchaf o gleifion a oedd wedi’u rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi. Yn ôl y data - a gyhoeddwyd ar ôl i Darren Millar AS, Gweinidog Adferiad COVID yr Wrthblaid, ofyn cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd, gwelwyd bod mwy na 1,300 o gleifion wedi’u rhyddhau o ysbytai rhwng Mawrth ac Ebrill 2020.
Fodd bynnag, dim ond ar ddiwedd Ebrill y cyflwynwyd profion cyn rhyddhau yn dilyn cwynion gan reolwyr cartrefi gofal a oedd yn teimlo dro ar ôl tro eu bod wedi bod dan bwysau i dderbyn cleifion COVID-19 positif, a rhai cleifion a oedd heb gael prawf. Rhyddhaodd y ddau fwrdd iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y nifer uchaf o heintiau a marwolaethau yn y drefn honno yng Nghymru gan ryddhau 251 a 200 o gleifion ym mis Mawrth, a 141 a 134 ym mis Ebrill.
Meddai Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid:
“Mae angen arolwg brys i effaith y niferoedd a ryddhawyd o’r ysbyty ar gyfraddau heintio coronafeirws mewn cartrefi gofal yng Nghymru er mwyn gallu pennu a yw pobl fregus wedi
dioddef niwed o ganlyniad i agwedd esgeulus Llywodraeth Cymru at brofi mewn cartrefi gofal.
“Byddaf yn ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn, yn gofyn iddi bwyso a mesur y sefyllfa hon.”
Meddai Darren Millar AS:
“Awgryma’r ffigurau fod cysylltiad uniongyrchol o bosibl rhwng y cyfraddau heintio yn ardaloedd gwaethaf y coronafeirws a’r niferoedd sy’n cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal.
“Mae arafwch Llywodraeth Cymru ynghylch profi a’u methiant i wrando ar rybuddion rheolwyr cartrefi gofal ac awdurdodau lleol wedi arwain at ganlyniadau difrifol.”
DIWEDD