Heddiw (03 Medi) mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig y Ceidwadwyr Cymreig - Janet Finch-Saunders AS - wedi siarad am ei llawenydd ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio mwy o wlân o Gymru mewn adeiladau cyhoeddus, yn sgil llythyr yn gofyn am hyn gan Mrs Finch-Saunders fis diwethaf.
Yn ei llythyr ymateb, dywedodd Lesley Griffiths AS:
“Mae’n bleser gen i ddweud bod tîm Rheoli Cyfleusterau Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymrwymo i ystyried y defnydd ehangach o wlân yn ein hystâd yn y dyfodol, yn amodol ar y profion cydymffurfio a’r ardystiad gofynnol.”
Mae Gweinidog yr Wrthblaid bellach wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu eu hymrwymiad, gan fynegi ei phryder ynghylch agwedd oddefol y weinyddiaeth at ddefnyddio gwlân mewn prosiectau inswleiddio cartrefi datganoledig. Bydd Mrs Finch-Saunders nawr yn ysgrifennu at Weinidog Tai Llywodraeth Cymru i ofyn am ‘ymrwymiad penodol’ yn y maes hwn er mwyn darparu marchnad gynaliadwy i ffermwyr Cymru.
Wrth sôn am y llythyr ymateb, dywedodd Janet:
“Rwy’n falch iawn bod y cais hwn gan Geidwadwyr Cymru, yn gofyn am ymrwymiad i ddefnyddio mwy o wlân Cymru wrth ddodrefnu adeiladau cyhoeddus, wedi cael cystal derbyniad gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd.
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anhygoel o anodd i ffermwyr defaid Cymru, a welodd gwymp ym mhris gwlân o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 byd-eang. Roedd sicrhau'r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol er mwyn diogelu rhagolygon tymor hir y diwydiant allweddol hwn.
“Fodd bynnag, mae agwedd oddefol Llywodraeth Cymru at ddefnyddio’r cynnyrch eiconig Cymreig hwn mewn cynlluniau inswleiddio cartrefi datganoledig yn peri pryder mawr imi. Heb ymrwymiad penodol gan Weinidog Cymru, ymddengys fod dymuniad ein ffermwyr i ddatblygu marchnadoedd newydd a chynaliadwy wedi ei lesteirio ar yr adeg hynod heriol hon.
“Mae gan Aelodau Etholedig lwyfan i fynd ar drywydd polisïau sy’n gosod lles pennaf amaethyddiaeth a ffermwyr wrth galon datganoli. Rwy’n ysgrifennu at Weinidog Tai Llywodraeth Cymru i ofyn am ymrwymiad pellach yn y maes hwn, a fydd yn anfon arwydd beiddgar o gefnogaeth i ddiwydiant sy’n rhan annatod o economi Cymru.”
DIWEDD