Yn dilyn cyhoeddi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru heddiw (15 Mehefin), a oedd yn cynnwys rhan yn dweud y byddai'r corff datganoledig yn ceisio gwahardd difa moch daear i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi pwyso am ddull a arweinir gan dystiolaeth er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd mewn da byw a bywyd gwyllt.
Dyma a ddywedodd Janet ar ôl ei hymyrraeth yn y Siambr:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyflwyno nifer fach iawn o drwyddedau ar gyfer marcio, dal a chymryd moch daear er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ar ffermydd sydd ag achosion cronig o TB yn y fuches. Yn wir, yn 2020 dim ond 7 trwydded a gyflwynodd Llywodraeth Cymru.
“Cymharwch hynny â'r ffaith syfrdanol fod dros 10,000 o wartheg sydd ar eu gorau o ran cynhyrchu yn parhau i gael eu difa bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd TB. Yn wir, o'r mis hwn ymlaen, mae mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar hyd a lled Aberconwy o ganlyniad i'r ffaith bod y clefyd yn lledaenu'n lleol.
“Nid yw'r dystiolaeth yn ategu'r gwaharddiad ar ddifa. Mae hyn yn peri pryder mawr i'm ffermwyr gweithgar, felly mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn addo gweithredu dull a arweinir gan dystiolaeth er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd mewn da byw a bywyd gwyllt, gan gynnwys difa moch daear.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae'r datganiad a grybwyllir i'w weld yn y Rhaglen Lywodraethu ar dudalen 16 (atodedig).
Ffotograff: gan Taylor Ruecker ar Unsplash