Cafodd achosion o lifogydd ledled Cymru ym mis Chwefror 2020 effaith ddinistriol a pharhaol ar ein cymunedau. Bu llifogydd eang yn ystod Storm Ciara (8 – 9 Chwefror 2020), Storm Dennis (15 – 17 Chwefror 2020) a Storm Jorge (28 Chwefror i 1 Mawrth 2020). Fe wnaeth y stormydd hyn arwain at lifogydd mewn 3,130 o adeiladau ar hyd a lled Cymru, sy'n golygu mai dyma'r gyfres o lifogydd fwyaf arwyddocaol ers llifogydd Rhagfyr 1979, a effeithiodd ar lawer o'r un cymunedau.
Er bod cyllid refeniw ar gyfer Llinell Wariant yn y Gyllideb Rheoli Risg Llifogydd a Refeniw Dŵr yn werth £41.415 miliwn, cynnydd o £12 miliwn ers 2021-22, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro a ydynt wedi ystyried y perygl o lifogydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Wrth sôn am gyllid ar gyfer taclo llifogydd mewn awdurdodau lleol, dywedodd Janet:
“Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn cyllid refeniw ar gyfer Awdurdodau Rheoli Risg yn 2022-23, ond yr hyn mae etholwyr ledled Cymru, o Gaerffili i Gonwy, am ei wybod yw a yw'r dyraniad yn ddigon.
“I sicrhau'r eglurder sydd ei angen, mae hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn camu ymlaen ac yn cadarnhau eu bod wedi ystyried y risg gyfredol ac amcanol o lifogydd mewn ardaloedd awdurdod lleol.
“Roeddwn i'n aelod o'r ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd mis Chwefror 2020, ac roedd ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 yn dweud bryd hynny bod lefel yr arian refeniw yn golygu bod awdurdodau lleol ymhell o fod yn barod a chydnerth, a bod awdurdodau'n derbyn yr un faint o refeniw waeth beth oedd y perygl o lifogydd eu hardal nhw.
“Er enghraifft, cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, un o'r ardaloedd a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd mis Chwefror, 4.54% o'r cyllid refeniw cenedlaethol er ei fod yn gorfod rheoli tua 21% o'r perygl llifogydd dŵr wyneb cenedlaethol.
“Cefnogais argymhelliad clir y dylai dull Llywodraeth Cymru o ddyrannu refeniw ar gyfer llifogydd ystyried y risg bresennol o lifogydd mewn ardaloedd awdurdodau lleol a’r risg a ragwelir yn y dyfodol ynddynt. Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae'n frawychus nad oes unrhyw gadarnhad a yw'r dyraniad refeniw yn ystyried perygl llifogydd".