Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Bobl Hŷn, wedi galw ar y sector preifat i weithredu er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg dewisiadau amgen i wasanaethau ar-lein.
Awgrymodd fod angen diwygio’r Siarter Cynhwysiant Digidol i gynnwys seithfed egwyddor: angen sicrhau bod dewisiadau amgen i wasanaethau ar-lein yn cael eu cynnig.
Wrth sôn am ei chynnig, meddai Gweinidog yr Wrthblaid:
“All neb anwybyddu’r ffaith fod angen dewisiadau amgen i wasanaethau ar-lein.
“Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi canfod fod aelwydydd all-lein yn colli hyd at £560 y flwyddyn wrth beidio â siopa a thalu biliau ar-lein.
“Mae’n gost aruthrol i’r cyhoedd yng Nghymru wrth ystyried mai dim ond 79% o bobl sy’n prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein.
“Rhaid inni weithredu i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau’n fforddiadwy a hygyrch all-lein hefyd.
“Er na allwn ni orfodi’r sector preifat i sicrhau bod ffurfiau eraill unfath o ffurflenni a chynigion ar-lein ar gael, gallwn ofyn iddynt wneud hynny fel arwydd o ewyllys da.
“Felly, er mwyn helpu gyda hyn, rwyf wedi galw am ddiwygio’r siarter cynhwysiant digidol fel ei bod yn cynnwys seithfed addewid. Byddai hyn yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod dewisiadau amgen i wasanaethau ar-lein yn cael eu cynnig”.
Nodiadau:
Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn cynnwys chwe addewid ac yn ffordd syml i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i helpu pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i fwynhau manteision y rhyngrwyd - yn enwedig pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl ddi-waith, tenantiaid tai cymdeithasol a theuluoedd mewn tlodi.
Nid yw traean o bobl hŷn yn gwneud defnydd personol o’r we. Mae’r ffigur hyd yn oed yn uwch ar gyfer pobl dros 75 oed: 60%.