Meddai Janet Finch-Saunders AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, heddiw (24 Mawrth):
"Heb os nac oni bai, trwy ddilyn y rheolau newydd ac aros gartref, fe fyddwch chi’n arbed bywydau.
“Trwy ddilyn y mesurau newydd a gyhoeddwyd neithiwr gan y Prif Weinidog Boris Johnson, gallwn helpu i ddiogelu system gofal cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau.
“Golyga hyn y bydd ein gofalwyr gwych yn gallu canolbwyntio ar wasanaethu’r rhai mwyaf anghenus ac sydd yn y perygl mwyaf.
"Hoffwn ganmol ymdrechion eithriadol ein gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr cartrefi gofal, gweithwyr gofal cartref, a staff cartrefi nyrsio dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
“Mae’ch caredigrwydd a’ch trugaredd anhunanol yn esiampl inni i gyd, ac i’w groesawu’n fawr mewn cyfnod anodd.
"Rwy’n parhau i gysylltu â Llywodraeth Cymru, gan wneud popeth posib i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn achos dros gymorth arbennig. Rwy’n croesawu’r ymgyrch recriwtio frys i annog cyn-weithwyr gofal cymdeithasol Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, ac yn parhau i wthio am fynediad hawdd a chyflym i brofion ar gyfer gofalwyr.
"Rwyf wedi fy nghyffwrdd gan yr holl etholwyr sydd wedi cysylltu â’m swyddfa i gynnig eu hamser i ffonio eu cymdogion oedrannus ac anabl.
"Mae’n hollbwysig ein bod ni’n dal i gyfathrebu gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod hwn. Gofynnaf ar bob un ohonom i neilltuo rhan o’n diwrnod i ffonio neu wneud galwad fideo i’n cymdogion neu berthnasau sydd mewn perygl, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n iach, yn hapus a chyfforddus.
DIWEDD