Heddiw (31 Mawrth), bu Janet Finch-Saunders AC Aberconwy yn canu clodydd ffermwyr Cymru am weithio’n galed ac anhunanol er mwyn bwydo’r genedl trwy argyfwng iechyd COVID-19.
Yr wythnos hon, ysgrifennodd John Davies, Llywydd NFU Cymru, at wleidyddion San Steffan a Bae Caerdydd er mwyn rhoi sicrwydd iddynt fod ffermwyr Cymru yn ymrwymo’n llwyr i fwydo’r genedl, yng nghanol galw cynyddol am fwyd.
Meddai Mrs Finch-Saunders yn ei datganiad:
"Hoffwn ddiolch o galon i ffermwyr Cymru am eu hymroddiad anhunanol i fwydo’r wlad yn ystod pandemig Covid-19.
“Mae ein harwyr amaethyddol yn gweithio ddydd a nos i addasu i alw amrywiol defnyddwyr, sy’n prysur addasu i ateb anghenion uniongyrchol ein harchfarchnadoedd a’n siopau cornel.
"Rhaid inni gofio bwyta’n lleol. Trwy gefnogi ffermwyr Cymru – boed yn ffermwyr defaid neu ddofednod, llaeth neu gnydau – gallwn roi cynhaliaeth ariannol i rai sy’n gweithio galetaf i ddiogelu ein lles maethol.
“Heddiw, rwy’n ymuno ag NFU Cymru er mwyn gofyn i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth ar gyflwyno holl daliadau’r cynllun Datblygu Gwledig a Chymorth Uniongyrchol sy’n weddill, er mwyn helpu i leihau’r pwysau ariannol ar ein ffermydd.
“Mae cyfnodau cynhyrchu amaethyddol yn hir a chymhleth, ac yn golygu bod ein sector ffermio hollbwysig yn agored i farchnad gyfnewidiol. Rhaid inni baratoi i gynnig mwy o gymorth i rai sy’n gweithio’n ddiflino i fwydo ein teuluoedd.
DIWEDD