Mae Janet Finch-Saunders AC wedi sicrhau estyniad i drigolion wneud cais am grant cyllid llifogydd. Roedd y cyfnod ymgeisio i fod i gau heddiw (31/03/2020), ond llwyddodd yr Aelod Cynulliad i sicrhau cytundeb y Gweinidog Cyllid i ymestyn y dyddiad cau. Bellach, bydd modd gwneud cais am gyllid tan 28/08/2020.
Os gwnaethoch chi ddioddef llifogydd yn eich cartref yn ystod stormydd mis Chwefror, gallwch wneud cais am gymorth ariannol gan Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i’r datblygiad, dywedodd Janet:
“Fe wnaeth Storm Ciara achosi llanast ar hyd a lled sir Conwy.
“Bu llifogydd mewn 60 o adeiladau yn Llanrwst a 10 ym Metws-y-coed, sy’n golygu bod etholwyr bellach yn gorfod ymdopi â dwy her – difrod dŵr a mesurau caeth Covid-19.
“Wythnos diwethaf, fe wnes i bostio neges atgoffa ar y cyfryngau cymdeithasol fod y dyddiad cau yn prysur agosáu – a chefais beth wmbredd o negeseuon gan drigolion pryderus a oedd wedi methu â gwneud cais neu’n wynebu anawsterau.
“Fel un sydd wedi brwydro dros gyllid teg yn sgil y llifogydd ers y storm, doeddwn i ddim yn barod i weld trigolion yn colli’r cyfle hwnnw.
“Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb ar frys i fy nghais i ymestyn y dyddiad cau, a bellach, mae gan drigolion Cymru bum mis arall i wneud cais”.
DIWED