Heddiw (04 Mai), cyflwynodd Janet Finch-Saunders AS, Aelod Aberconwy, gwestiwn ysgrifenedig i’r Prif Weinidog yn annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi ‘anghenion cymhleth’ diwydiant twristiaeth Cymru.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Cynulliad, gofynnodd Janet:
“Pa gamau mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i ddeddfu cynllun cymorth COVID-19 penodol i’r sector sy’n cydnabod arferion gorau rhyngwladol, o ran busnesau parciau gwyliau Cymru?”
Mae ei chwestiwn yn dilyn pentwr o ohebiaeth gan berchnogion parciau gwyliau lleol pryderus, ynghyd ag ymgyrch gydgysylltiedig gan Gymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain,
Gan roi ei sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae nifer o berchnogion parciau gwyliau pryderus wedi cysylltu â mi yn gofyn am ddull wedi’i deilwra sy’n deall anghenion cymhleth y diwydiant twristiaeth yn well.
“Y busnesau hyn, sef asgwrn cefn economi llewyrchus y Gogledd, oedd rhai o’r cyntaf i gau a byddant yn anochel ymysg yr olaf i ailagor ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi.
“Mae’r fasnach a ddaw yn sgil y busnesau maint pentrefi hyn i’n trefi a’n pentrefi yn ystod tymor yr haf yn amhrisiadwy. Mae llawer hefyd wedi cefnogi ein gweithwyr rheng flaen brwd drwy gynnig llety hanfodol fel y gallant hunanynysu i ffwrdd o’u teuluoedd gydol y pandemig COVID-19.
“Er fy mod yn croesawu cynlluniau cymorth presennol Llywodraeth Cymru, mae angen mesurau pellach os ydym ni am gefnogi’r sector hanfodol hwn yn well, gan ddiogelu swyddi a bywoliaethau.
DIWEDD