Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gymorth i ofalwyr di-dâl Cymru. Meddai:
“Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod 79% o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu mwy o ofal ar gyfer eu hanwyliaid – gyda llawer ohonynt yn darparu 11 awr ychwanegol o ofal di-dâl yr wythnos.
“Felly, er fy mod yn croesawu cyhoeddiad grŵp gorchwyl a gorffen, a’r disgwyl y bydd awdurdodau lleol yn cynnal yr hawliau a ddarperir dan Ddeddf 2014, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy ar unwaith i gefnogi ein gofalwyr di-dâl anhygoel, sy’n gweithio o fore gwyn tan nos i gadw pobl fwyaf bregus ein cymdeithas yn ddiogel rhag niwed.
“I atal ein gofalwyr di-dâl rhag chwythu eu plwc, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu lefelau hollbwysig o gyllid i’n hawdurdodau lleol, er mwyn eu helpu i gynnal hawliau gofalwyr a hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i’n nifer cynyddol o arwyr di-dâl sy’n teimlo wedi’u llethu gan eu gwaith.
“Rwy’n galw am gamau cadarnhaol i ysgafnhau’r baich ar ein gofalwyr di-dâl.”
DIWEDD