Heddiw (5 Mai), nododd Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Plant, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, Ddiwrnod Asthma y Byd drwy annog dioddefwyr i gadw a defnyddio cynllun gweithredu asthma ysgrifenedig.
Fel arfer, mae’r dogfennau hyn yn golygu bod pobl yn fwy parod i reoli eu symptomau ac felly’n llai tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty ar gyfer eu hasthma. Mae Aelod Aberconwy hefyd wedi annog unigolion i wirio eu techneg mewnanadlydd yn rheolaidd a derbyn eu hadolygiad blynyddol.
Tybir bod asthma yn gyflwr sy’n effeithio ar 1 o bob 10 yng Nghymru. Yn y DU, mae oddeutu 5.4 miliwn o bobl yn derbyn triniaeth ar gyfer asthma ar hyn o bryd. Yn ôl ystadegau gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, mae hynny’n cyfateb i un o bob 12 oedolyn ac un o bob 11 plentyn.
Gan siarad ar Ddiwrnod Asthma y Byd, dywedodd Janet:
“Tra bod Gweinidogion Cymru yn canolbwyntio’n amlwg ar oresgyn y pandemig COVID-19 sy’n prysur ddatblygu, mae’n rhaid i swyddogion cyhoeddus ymrwymo o hyd i drin yn well y cyflyrau bob dydd hynny sy’n parhau i effeithio ar ffordd pobl o fyw.
“Er bod Cymru wedi gwella ei lefel o ofal sylfaenol ar gyfer asthma yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn y data i dargedu ymyriadau yn well a gwella cyfraddau gofal dilynol ar ôl derbyn.
“Os ydych chi’n dioddef pyliau cyson o asthma, mae’n bosib y gallai hyn olygu bod angen newid eich meddyginiaeth. Efallai eich bod angen gofal mwy arbenigol arnoch, hyd yn oed. Os mai dyna’r achos, siaradwch â’ch meddyg teulu ar unwaith.
“Ddylech chi ddim gorfod ymdopi â phwl o asthma ar eich pen eich hun.
DIWEDD
Ffotograff gan Robina Weermeijer.