Heddiw (5 Mai), mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi annog Llywodraeth Cymru i ddarparu gwell cymorth iechyd meddwl i weithwyr gofal cymdeithasol a allai golli preswylwyr yn sgil y pandemig COVID-19.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Cynulliad i Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:
“Pa gamau mae’r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo sesiynau cwnsela neu gael mynediad at rwydweithiau cyngor ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi colli preswylwyr i COVID-19?
Gan siarad am y pwnc, dywedodd Janet:
“Yn fy sgyrsiau parhaus â pherchnogion cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol, rwyf wedi sylwi ar y pwysau emosiynol enfawr y mae’r pandemig COVID-19 yn ei roi ar ysgwyddau ein gofalwyr trugarog ac anhunanol.
“Mae’r lleoliad cartref gofal yn weithle arbennig sy’n meithrin sawl perthynas ddiffuant a pharhaus. Yn aml, mae staff yn gofalu am eu preswylwyr fel y bydden nhw eu teulu eu hunain.
“O ystyried y lefel erchyll o farwolaethau yn ein cartrefi gofal, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddiogelu lles emosiynol a meddyliol ein staff gofal cymdeithasol. Mae’r risg y bydd y sefyllfa sydd ohoni yn llethu ein gofalwyr, gan arwain at boen meddwl, yn dal yn llawer rhy uchel.
“Mae’n hollbwysig dal ati i gyfathrebu. Trwy ddarparu mynediad at rwydweithiau cwnsela neu gynghori i’n gweithwyr gofal cymdeithasol, gallwn sicrhau bod ein staff rheng flaen brwd yn cael y gefnogaeth ddigonol drwy’r cyfnod anodd hwn.
DIWEDD
Ffotograff gan Cristian Newton.