Yn ystod y sesiwn cyfarfod llawn heddiw (6 Mai), gofynnodd Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – i’r Prif Weinidog:
A fyddwch chi’n ymestyn y bonws o £500 i’n byddin drugarog o ofalwyr di-dâl fel yr awgrymodd Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru? Mae’r cwestiwn yn dilyn galwad y Gweinidog i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i roi gwell cefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Amcangyfrifir bod 79% o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn darparu gofal i’w hanwyliaid, gyda llawer yn gofalu’n ddi-dâl am 11 awr ychwanegol yr wythnos.
Gofynnodd Aelod Aberconwy hefyd i Mark Drakeford AS a fydd staff gofal cymdeithasol yn cael codiad cyflog tebyg i’r hyn y mae staff nad ydynt yn staff meddygol yn Ysbyty Calon y Ddraig yng Nghaerdydd yn ei gael.
Ar ôl cyfrannu at y sesiwn cyfarfod llawn rhithwir, dywedodd Janet:
“Rwy’n falch fod Gweinidogion Cymru wedi gwrando ar fy ngalwad i wobrwyo staff gofal cymdeithasol rheng flaen sy’n gweithio mor galed. Mae’r bobl hyn yn gwneud gwaith caled ac emosiynol dros ben ac yn haeddu cael eu gwobrwyo. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn yr ymrwymiad hwn i roi bonws gyda chamau pellach, drwy ymestyn y gefnogaeth i ysgafnhau’r baich ar ein gofalwyr di-dâl.
“Mae’r arwyr di-dâl hyn yn gweithio’n ddiflino, yn aml ochr yn ochr â chyflogaeth arall, i ofalu’n gariadus am eu hanwyliaid.
“Mae’n ddigalon iawn clywed nad yw llawer o awdurdodau lleol wedi derbyn gwybodaeth am y taliad hwn eto. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydweithio’n well â’n hawdurdodau lleol prysur i sicrhau bod staff gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n ddigonol.
DIWEDD