Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, wedi defnyddio sesiwn cyfarfod llawn yr wythnos hon i annog Llywodraeth Cymru i “roi cymorth priodol i bob cartref gofal”.
Daeth ei her ar ôl iddi glywed bod Llywodraeth Cymru wedi anfon e-bost at bob awdurdod lleol ar 12 Mai yn eu cynghori mewn perthynas â’r £40miliwn sydd wedi ei ddyrannu i ofal cymdeithasol i oedolion mai “dim ond costau sy’n gysylltiedig â darpariaeth gofal cymdeithasol oedolion a gomisiynir gan awdurdod lleol sy’n gymwys”.
Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd yw na all Awdurdodau Lleol ddyfarnu cyllid ychwanegol i gartrefi gofal ar sail y costau cynyddol sy’n deillio o breswylwyr sy’n talu eu ffioedd eu hunain, neu’r rhai y mae bwrdd iechyd yn talu amdanynt.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid:
“Mae cartrefi gofal ar reng flaen yr ymdrech genedlaethol hon i ddiogelu preswylwyr rhag COVID-19.
“Mae difrifoldeb y sefyllfa yn amlwg ac roedd cynnydd o 98 y cant mewn marwolaethau mewn cartrefi gofal oedolion ers 1 Mawrth eleni o gymharu â’r un sefyllfa yn 2019.
“Rydw i wedi dweud yn y gorffennol y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i gefnogi ein cartrefi gofal, fel sicrhau bod profion ar gael i’r holl breswylwyr. Fodd bynnag, ymddengys nad yw cael gafael ar gymorth ariannol yn broses hawdd.
“Pan ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddai £40 miliwn ar gael i ddarparwyr gofal cymdeithasol oedolion, byddai person rhesymol wedi credu y byddai cyllid ar gael i bob cartref gofal mewn trafferth.
“Ond y gwir yw mai dim ond costau sy’n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol oedolion a gomisiynir gan awdurdod lleol y gall cartrefi gofal ei hawlio, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt chwilio yn rhywle arall am gymorth gyda’r gost gynyddol o ofalu am unigolion a gyllidir yn breifat a’r rhai y mae’r byrddau iechyd yn talu amdanynt.
“Er bod swyddogion Llywodraeth Cymru bellach mewn trafodaethau â byrddau iechyd ynghylch darparu cyllid ychwanegol, mae’r holl sefyllfa’n ddiangen.
‘“Mae’n dangos bod llawer i’w wneud o hyd i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn drylwyr, a chael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen.
“Does dim gwahaniaeth os yw’r arian yn mynd i gartref gofal drwy’r awdurdod lleol neu fwrdd iechyd, ar ddiwedd y dydd, mae’n dod o’r un ffynhonnell – trethdalwyr.
“Mae angen i ni gynorthwyo pob cartref gofal yn iawn yn fuan, felly dylid gallu cael gafael ar y cyllid o un ffynhonnell.”
DIWEDD
Nodiadau: