Heddiw (18 Mai), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, y Ceidwadwyr Cymreig - wedi mynegi ei siom bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi’r cyngor gwyddonol a wnaeth dywys ei phenderfyniad blaenorol yn erbyn cynnal profion COVID-19 ar bawb mewn cartrefi gofal.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 14 Mai, dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog Iechyd Cymru:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw, ac mae hynny’n cynnwys rhannu gwybodaeth ac argymhellion a ddaw i Weinidogion gyda phawb yng Nghymru.
Yn anhapus gyda’r diffyg manylion ym mhenderfyniad blaenorol Llywodraeth Cymru i beidio â chynnal profion mewn cartrefi gofal yng Nghymru, mae Aelod Aberconwy wedi ffeilio cais am Ryddid Gwybodaeth i ofyn am gopi o’r cyngor gwyddonol a hysbysodd y cyfeiriad polisi blaenorol. O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, dylai Llywodraeth Cymru geisio ymateb o fewn 20 diwrnod.
Wrth siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw. Os felly, pam nad yw wedi cyhoeddi’r cyngor gwyddonol a dywysodd y penderfyniad blaenorol yn erbyn cyflwyno profion i bawb ledled Cartrefi Gofal Cymru?
“Er fy mod yn croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru o ran profion cartrefi gofal dros y penwythnos, mae’r oedi cyn dod i’r penderfyniad hwn wedi peryglu diogelwch preswylwyr a staff.
“Wrth gwrs, rwy’n gwbl ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau digynsail yn ystod y pandemig COVID-19. Mae angen canmol bod swyddogion cyhoeddus wedi’u defnyddio i helpu gydag ymdrechion rheng flaen.
“Fodd bynnag, ni ddylai Aelodau orfod dibynnu at geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i gael mynediad at gyngor gwyddonol allweddol. Mae cornelu Aelodau’r wrthblaid i ddilyn y broses hirwyntog yn ymgais amlwg gan Lywodraeth Cymru i osgoi craffu.
“Rwy’n erfyn ar Weinidog Iechyd Cymru i gadw at ei eiriau gwag fel arall, a chyhoeddi’r cyngor gwyddonol a lywiodd ei benderfyniad blaenorol.
DIWEDD