Heddiw (20 Mai), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi unigolion sydd am faethu plant agored i niwed. Daeth ei galwad wrth iddi ganmol ‘arwyr tawel’ Cymru yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth.
Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi ymwybyddiaeth o bŵer trawsnewidiol maethu. Mae hefyd yn tynnu’r sylw at yr angen am fwy o ofalwyr ledled y Deyrnas Unedig. 'This is Fostering' yw’r thema eleni.
O dan ei chylch gwaith fel Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, roedd Mrs Finch-Saunders eisoes wedi annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi gofalwyr maeth yng Nghymru a allai fod yn cael trafferth gyda’u harian yn sgil y pandemig COVID-19 byd-eang.
Gan siarad yn ystod y Pythefnos Gofalwyr Maeth, dywedodd Janet:
"Wrth i ni gydnabod rôl anodd ond hollbwysig ein harwyr tawel rhagorol yn darparu cartrefi sefydlog a chariadus i lawer o blant bregus Cymru, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i wneud mwy i agor y system faethu i ddarpar ofalwyr.
“Mae hyn yn golygu gweithio i gael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen. Drwy sicrhau bod y system mor effeithlon â phosibl, byddem yn cael gwared ar y hen syniad bod maethu yn parhau’n broses rhy gymhleth.
"Rwyf hefyd yn galw ar Weinidogion Cymru i dynnu mwy o sylw at yr opsiynau cymorth sydd ar gael gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Trwy roi ymgyrch ymwybyddiaeth ddigidol bositif ar waith sy’n tynnu sylw at natur werth chweil y gwaith, byddem yn dangos i ddarpar ofalwyr maeth bod y system ar gael i bawb o hyd, beth bynnag fo’u hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol.
"Gyda sylw pawb yn amlwg ar y pandemig COVID-19 presennol, mae’n hollbwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn colli golwg ar ei dyletswydd i’n plant bregus. Wedi’r cwbl, mae Cymru angen pobl sy’n gallu gofalu am blant a phobl ifanc yn eu harddegau, plant ag anableddau a brodyr a chwiorydd o hyd.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Cynhelir y Pythefnos Gofal Maeth rhwng 11 a 24 Mai. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Rhwydwaith Maethu.