Wrth roi sylwadau ar y newyddion bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i chyhuddo o fradychu hawliau dynol yn honedig mewn cartrefi gofal, meddai Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Pobl Hŷn yr Wrthblaid:
“Ddoe ddiwethaf, gelwais ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnwys hawliau ein preswylwyr hŷn yn y gyfraith, a dywedais y byddwn yn cynnig Bil i’r perwyl hwn.
“Heddiw, roedd cymysgedd o dristwch a dicter wrth i ni ddarllen bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn credu bod hawliau wedi’u bradychu o ran cynnal profion ar breswylwyr cartrefi gofal, ac unwaith eto fe wnaethom alw wythnosau’n ôl am i holl breswylwyr cartrefi gofal gael eu profi.
“Er bod y Llywodraeth Lafur yma yn cael digon o drafferth ymdopi fel y mae hi, rwy’n edrych ymlaen at weld ymchwiliad i hyn ac elfennau eraill o’i hymateb i’r pandemig yn dechrau.
“Mae’n debyg y byddwn yn cofio’r hyn sydd wedi digwydd mewn cartrefi gofal fel sgandal cenedlaethol, ac mae meddwl faint o fywydau y gellid fod wedi’u hachub yn frawychus.”
DIWEDD