Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i i honiadau nad yw rhai gofalwyr ifanc yn cael mynediad at rai siopau manwerthu, drwy annog Llywodraeth Cymru i wella’r broses o ddosbarthu cardiau adnabod gofalwyr. Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Mewn ymateb i’r drafodaeth a gyflwynais ar ofalwyr ifanc y llynedd, nododd y Dirprwy Weinidog y byddai cardiau adnabod gofalwyr ifanc yn cael eu cyflwyno’n raddol erbyn diwedd 2019.
“Erbyn diwedd mis Ionawr eleni, dywedodd y Dirprwy Weinidog mai dim ond rhai awdurdodau lleol a fyddai’n cael eu cynnwys yng nghyfnod cyntaf cyflwyno’r cardiau adnabod.
“Nawr rydym yn gweld canlyniad sefyllfa ble mae nifer o ofalwyr heb gardiau adnabod, gyda rhai archfarchnadoedd yn gwrthod mynediad iddynt.
“Mae gan ofalwyr ifanc gyfrifoldeb sylweddol ar eu hysgwyddau, felly mae’n hawdd dychmygu pa mor dorcalonnus ydyw iddyn nhw pan nad yw unigolion yn deall eu rôl.
“Heno, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn curo dwylo ar gyfer gofalwyr, ond rydw i am wneud hynny yn gwybod bod y gwaith wedi dechrau ar gefnogi gofalwyr ifanc.
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu fy nghais i ofalwyr di-dâl dderbyn y bonws o £500 o’r blaen, rwy’n galw ar y Dirprwy Weinidog i wella dosbarthiad cardiau adnabod ar unwaith.
“Rydym ni am weld Cymru lle gall pobl gofalwr ifanc o Gonwy i Gaerdydd gael mynediad at gerdyn adnabod.”
DIWEDD
Cwestiynau Ysgrifenedig:
- A all y Gweinidog nodi pa gamau brys a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod pob gofalwr ifanc yng Nghymru’n gallu cael gafael ar gerdyn adnabod sy’n egluro ei rôl?
- A all y Gweinidog ysgrifennu at bob archfarchnad fawr sy’n gweithredu yng Nghymru ar unwaith yn eu hysbysu y dylai gofalwyr ifanc dan 16 oed gael mynediad at y siopau hyn?
Nodiadau: