Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb gyda phryder i’r cyhoeddiad heddiw (26 Mai) bod y capasiti profion dyddiol ar gyfer COVID-19 yng Nghymru yn dal i fod yn 5,330 – fel y mae wedi bod ers pythefnos – ac mai dim ond ychydig dros 3,000 o brofion a wnaed mewn gwirionedd ar y diwrnod mwyaf diweddar dan sylw.
Dengys y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw hefyd tra bod y gyfran o heintiau cadarnhaol wedi arafu o ran gweithwyr gofal iechyd (o 16 y cant bythefnos yn ôl, i wyth y cant yr wythnos diwethaf a nawr pump y cant), mae’n cynyddu o ran gweithwyr cartrefi gofal (29 y cant i 31 y cant i 35 y cant) ar gyfer yr un cyfnod.
Meddai Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid:
“Er fy mod yn croesawu’r cynnydd yn nifer y profion i breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal, mae nifer y canlyniadau profion positif sy’n dod yn ôl yn peri gofid mawr. Yn amlwg, wrth i nifer y profion gynyddu, mae’n debyg y bydd mwy yn cadarnhau fod rhywun yn dioddef o’r coronafeirws, ond mae gwahaniaeth cynyddol rhwng y sectorau cartrefi gofal a gofal iechyd.
“Mae angen i ni ddeall y rheswm am hyn, ac felly rwy’n galw ar Lywodraeth Llafur Cymru i ddweud wrth y bobl ymroddedig sy’n gweithio mor galed yn y sector cartrefi gofal yn union beth fydd yn ei wneud i’w diogelu.
“Mae hyn yn berthnasol dros ben o gofio’r adroddiadau sydd wedi’n cyrraedd bod rhai gweithwyr allweddol yn cael eu cyfeirio i Loegr - yn wir mor bell â Dyfnaint - i gael profion.
“Hefyd, mae gen i’r pryder ychwanegol bod rhai cartrefi gofal mwy gyda dros 50 o breswylwyr yn cael eu blaenoriaethu mewn rhai ardaloedd. Dylai pob cartref fod yn flaenoriaeth a chael profion.”
DIWEDD