Mae galw ar i Croeso Cymru wneud gwaith mawr i helpu busnesau llety yng Nghymru. Mae Janet Finch-Saunders AS wedi gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru alluogi i Croeso Cymru greu adnodd chwilio ac archebu llety ar-lein. Gan roi sylwadau ar ei chynigion, dywedodd Mrs Finch-Saunders:
“Mae budd economaidd twristiaeth i Sir Conwy oddeutu £900 miliwn, a ddaw yn sgil 9.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn amlwg, bydd y ffigurau ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 yn wahanol iawn felly rwyf wedi bod yn gweithio ar nifer o gynigion i weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i gefnogi lletygarwch.
“Unwaith y bydd llety yn cael ailagor bydd llawer yn archebu a thalu am eu hystafelloedd gwestai ar blatfformau archebu ar-lein.
“Gall hyn weld ein busnesau lleol yn colli canran dda o’r ffi i gomisiwn.
“Yn ystod y pandemig, teg yw dweud mai Busnes Cymru nid Croeso Cymru sydd wedi bod yn ceisio helpu ein busnesau twristiaeth. Gallwn newid hyn, a chael Croeso Cymru i gyfrannu mwy at adfywio’r sector drwy alluogi ei gynulleidfa fyd-eang i archebu llety ar y wefan.
“Gallwch chwilio am lety sydd ar gael ar Visit Scotland a Discover Northern Ireland, felly pam ddim Croeso Cymru?
“O ystyried bod Croeso Cymru yn cael ei gyllido gan drethdalwyr, dylid datblygu cyfleuster chwilio am lety a’i ddarparu’n ddi-gomisiwn i’n sector lletygarwch.”
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig:
- A all y Gweinidog ystyried galluogi Croeso Cymru i greu platfform archebu llety ar-lein yng Nghymru fel bod y sector twristiaeth yn colli cyfran lai, os o gwbl, o’u pris am noson o lety?
Nodiadau: