Heddiw (3 Mehefin) tynnodd Janet Finch-Saunders AS sylw at bryder Llywodraeth Cymru ynghylch craffu a herio annibynnol, wrth iddi bwysleisio ei phryderon ynghylch ymateb y weinyddiaeth i’r pandemig. Roedd Aelod Aberconwy yn siarad fel rhan o ddadl y Ceidwadwyr Cymreig a oedd yn galw am ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad barnwr, i ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19.
Yn siarad ar ôl cau’r ddadl rithwir, dywedodd Janet:
“Mae fy etholwyr wedi gofyn yn rhesymol a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi ein cymunedau. Maen nhw’n bryderus, a hynny’n ddigon naturiol, gyda’r newyddion cyson am drychinebau ac anhrefn ym Mae Caerdydd.
“Mae pobl fwyaf bregus ein cymunedau wedi cael eu methu gan weinyddiaeth Llafur Cymru. Mae Gweinidogion Cymru wedi colli neu anwybyddu targedau profion Covid-19, ac anfonwyd miloedd o lythyrau gwarchod i’r cyfeiriadau anghywir. Mae oedi wedi bod wrth brofi holl breswylwyr cartrefi gofal Cymru ac mae preswylwyr hŷn wedi’u rhoi dan bwysau i arwyddo ffurflenni Dim Ceisio Dadebru drwy CPR.
“Mae lefel anhygoel anallu Llywodraeth Cymru yn cyfiawnhau ymchwiliad annibynnol. Mae’n hollbwysig bod cadarnhad y bydd yr ymchwiliad hwn yn un annibynnol, gan fod ymchwiliadau pwysig iawn yn aml yn cael eu comisiynu ond ddim yn cael eu cyflawni.
“Mae pandemig byd-eang yn gofyn am arweinyddiaeth gadarn a chlir. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi methu sicrhau ei bod yn agored i gael ei phwyso a’i mesur yn iawn, ymchwiliad annibynnol yw’r unig ffordd bellach i’r cyhoedd ddwyn y Gweinidogion cyfrifol i gyfrif.
DIWEDD