Wrth siarad ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y bonws o £500 i weithwyr gofal yng Nghymru yn destun treth a didyniadau Yswiriant Gwladol, dywedodd Janet Finch-Saunders – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid:
“Mae hwn yn gamgymeriad drud gan Lywodraeth Llafur Cymru, ac yn un sy’n debygol o ddigalonni rhai o’r bobl fwyaf ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino yng Nghymru.
“Mae’n amlwg fod Gweinidogion Cymru wedi brysio’r cyhoeddiad am eu bod yn cael diwrnod drwg yn y newyddion ar ôl methu profi staff a phreswylwyr cartrefi gofal.
“Dylai Llywodraeth Cymru - a’r Gweinidog Iechyd - fod wedi holi am statws treth y taliadau hyn cyn gwneud cyhoeddiad mor gyflym, oherwydd mai penderfyniad CThEM oedd trethu’r taliadau hyn - nid Llywodraeth y DU.
“Mae gan Lywodraeth Cymru gannoedd o filiynau o arian heb ei ddyrannu a ddarparwyd ar gyfer Cymru yn sgil ymateb Llywodraeth y DU i’r pandemig a dylai ddefnyddio’r cronfeydd hyn i dalu costau unrhyw ddidyniadau o becynnau tâl gweithwyr gofal yn sgil y llanast hwn.”
DIWEDD