Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi herio’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn dadl am reoliadau gofal cymdeithasol diwygiedig yr wythnos hon.
Dwy effaith Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygiad) (Coronafeirws) 2020 yw:
- Llacio rhai o’r rheolau sy’n gysylltiedig â’r angen i berson sy’n gweithio i ddarparwr gwasanaethau ddarparu gwybodaeth lawn a boddhaol o ran pethau fel geirdaon ysgrifenedig, tystiolaeth o gymwysterau, hanes cyflogaeth a sgiliau iaith
- Darpariaeth gofal nyrsio, a gofal a chymorth i oedolion a gomisiynir gan awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd heb yr angen i gofrestru fel y nodir yn Adrannau 5 a 6 o Ddeddf 2016 (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)
Gan roi sylwadau ar ôl i’r Rheoliadau gael eu pleidleisio drwy’r Senedd, dywedodd Janet:
“Mae’r rheoliadau hyn yn achosi pryder mawr am risgiau diogelu ym maes gofal cymdeithasol.
“Mae’r Blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Brexit Party newydd bleidleisio i ganiatáu llacio gwiriadau cyflogaeth mewn perthynas ag unigolion sy’n gobeithio gweithio mewn lleoedd fel cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.
“Mae darparu gwybodaeth lawn a boddhaol o ran pethau fel geirdaon ysgrifenedig, tystiolaeth o gymwysterau a hanes cyflogaeth er budd pennaf darparwyr gwasanaethau a’r unigolion y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
“Nid fi yw’r unig un sy’n poeni am lacio’r rheolau. Yn wir, anogodd ymatebwr i’r ymgynghoriad ar y rheoliadau diwygiedig fod gwiriadau cyn-gyflogaeth yn hanfodol i ddiogelu unigolion.
“Mae gweithwyr rheng flaen yn gwneud gwaith anhygoel, ond mae ambell ddigwyddiad yn y gorffennol yn golygu bod yn rhaid i ni wastad fod yn ofalus a sicrhau ein bod yn diogelu unigolion.
“Mae hyn yn bwysicach nag erioed nawr bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal arolygiadau rheolaidd yn ystod y pandemig.”
DIWEDD