Mae Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig – Janet Finch-Saunders MS – wedi lleisio ei phryderon heddiw (10 Mehefin) ynglŷn â pholisi 28 diwrnod rhydd rhag Covid Llywodraeth Cymru, gan fod swyddogion gofal yn honni na fu digon o ymgynghori â hwy wrth lunio'r polisi. Daw ei galwadau wrth i Fforwm Gofal Cymru rybuddio y gallai hyd at hanner cartrefi gofal Cymru orfod cau oherwydd goblygiadau ariannol y polisi.
Mae Mrs Finch-Saunders hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch gweithredu'r polisi profion wythnosol ar ôl i ddatganiad gan Vaughan Gething awgrymu y byddai profion wythnosol yn cael eu cyfyngu i staff cartrefi gofal cymdeithasol yn unig.
Wrth siarad yn dilyn ei chwestiynau i'r Prif Weinidog, dywedodd Janet:
“Rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru yn meddwl ei bod yn ddoeth gweithredu rheol o'r fath heb drafod yn iawn gyda'r sector yn gyntaf. Mae cyflwyno'r polisi 'rhydd rhag COVID' am 28 diwrnod wedi methu ag ystyried cymhlethdod y sector a'r cyfyngiadau y mae llawer o gartrefi yn gweithio ynddynt.
“Mae swyddogion gofal wedi rhybuddio'n gyson mai cwtogi ar ddeiliadaeth cartrefi gofal fyddai ei diwedd hi i sawl cartref sydd eisoes mewn trafferthion. Mae agwedd ddiog y Gweinidog â'i 'un polisi sy'n addas i bawb' yn peryglu hirhoedledd sawl cwmni.
“Rwyf hefyd yn poeni am y modd y cyflwynwyd rhaglen brofi wythnosol Llywodraeth Cymru. Dro ar ôl tro, mae staff gofal cymdeithasol wedi cysylltu â mi sy'n disgwyl sawl diwrnod cyn cael canlyniadau eu profion. Mae angen datrys hyn er mwyn i'r rhaglen lwyddo.
“Roedd datganiad ysgrifenedig y Gweinidog Iechyd ddoe yn awgrymu mai cynllun i staff cartrefi gofal fyddai hwn yn unig. Rwy'n annog ei weinyddiaeth i gyflwyno trefn brofi eang sydd hefyd yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal, er mwyn sicrhau iechyd a lles pawb sy'n bresennol.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Datganiad Vaughan Gething AS (9 Mehefin): "O ddydd Llun 15 Mehefin, bydd pob aelod o staff cartrefi gofal yn cael cynnig prawf wythnosol am gyfnod o bedair wythnos.”