Wrth roi sylwadau ar yr adroddiad bod oddeutu 1,000 o bobl wedi’u rhyddhau o’r ysbyty i gartrefi gofal heb gael profion COVID, dywedodd Janet Finch-Saunders, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid:
“Mae angen ymchwiliad ar unwaith i effaith yr achosion hyn o ryddhau o’r ysbyty ar gyfraddau heintio coronafeirws yng nghartrefi gofal Cymru.
“Mae angen i ni allu pennu a yw preswylwyr yn y cartrefi wedi cael niwed yn sgil dull esgeulus Llywodraeth Cymru o ymdrin â chynnal profion mewn cartrefi gofal. Gallai fod wedi arwain at gyflwyno COVID-19 i gartrefi gofal.
“Yn ddiweddar, mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyfaddef y byddai wedi gwneud dewisiadau gwahanol yn ôl pob tebyg ar sawl achlysur gwahanol yn ystod y pandemig, ac rwy’n hyderus mai rhyddhau o’r ysbyty a phrofion mewn cartrefi gofal yw dau o’r achlysuron hynny.
“Mae gweithwyr gofal proffesiynol wedi cysylltu â mi i egluro eu bod wedi’u rhoi dan bwysau gan ysbytai i dderbyn cleifion; gallai fod cysylltiad uniongyrchol rhwng nifer uchel yr achosion COVID-19 mewn cartrefi gofal a rhyddhau o ysbytai.
“Rydw i eisoes wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Pobl Hŷn ynghylch y sefyllfa, ac rwy’n ymwybodol fod hyn yn un o’r materion y mae hi wedi’u crybwyll wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fel achos posibl o ddiystyru hawliau dynol pobl hŷn.”
DIWEDD