Heddiw (22 Mehefin), mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i ddrafftio cynllun gweithredu cenedlaethol i fynd i’r afael â’r anghysondeb yn nhaliadau ffioedd cartrefi gofal ar hyd a lled Cymru. Daeth ei hymyrraeth ar ôl i’r Fforwm Gofal gyhoeddi "tabl o'r rhai oedd yn perfformio waethaf' dros y penwythnos, i dynnu sylw at yr awdurdodau lleol hynny sy’n talu’r ffioedd cartrefi gofal isaf yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Dywedodd y sefydliad, sy’n cynrychioli mwy na 450 o ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, bod y gwahaniaeth rhwng y ffioedd wythnosol uchaf ac isaf y pen yn fwy na £12,000 y flwyddyn. Mae eu ffigurau’n awgrymu y byddai’r gwahaniaeth hwn gyfwerth â bron i £500,000 mewn cartref gofal â 40 o breswylwyr dros gyfnod o ddeuddeg mis.
Wrth siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Nid yn unig bod loteri cod post fel hyn yn gadael preswylwyr cartrefi gofal i lawr, gyda llawer ohonynt ymysg pobl fwyaf bregus ein cymdeithas, ond mae hefyd yn achosi perygl real a pharhaus i ddyfodol llawer o gwmnïau yng Nghymru.
Mae’r sector gofal cymdeithasol yn ddarparwr swyddi hollbwysig, gan gyflogi oddeutu 64,000 o bobl ledled Cymru. Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru gefnogi ein cwmnïau gofal yn eu dymuniad i chwarae rôl flaenllaw wrth adfer economi’r genedl ar ôl y pandemig.
“Fodd bynnag, ni allwn wireddu’r dymuniad hwnnw heb gefnogaeth ariannol gyfartal. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i weithio gyda’n hawdurdodau lleol i ddrafftio cynllun gweithredu cenedlaethol sy’n sicrhau cyllid teg i gwmnïau gofal cymdeithasol ledled Cymru.
“Rwy’n croesawu’r ffaith bod fy awdurdod i, Conwy, yn talu’n uwch na ffi wythnosol gyfartalog Cymru i gefnogi cartrefi gofal lleol. Gobeithio y bydd y cynllun gweithredu’n gweld hyn yn digwydd ar hyd a lled ein gwlad i gefnogi’r cwmnïau hanfodol hyn yn y cyfnod anodd hwn.
DIWEDD