Gyda thristwch mawr y clywais y newyddion annisgwyl am ein ffrind annwyl a chydweithiwr, Oscar. Ni allaf ddychmygu’r galar sy’n wynebu Firdaus a Natasha nawr yn sgil colli dyn mor hyfryd. Fodd bynnag, gallaf eich sicrhau ein bod i gyd yn meddwl amdanoch chi.
Roeddwn i’n eistedd wrth ochr Oscar yn y Siambr, a phleser o’r mwyaf oedd hynny. Ni wnaf byth anghofio ei gyfranogiad mewn sawl trafodaeth, mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf, gyda’i gyfraniadau hynod frwdfrydig. Roedd sawl cyfraniad arall o’r galon hefyd, yn enwedig yn ein cynadleddau Ceidwadwyr Cymreig, lle’r oedd yn codi ei lais yn gyson gyda balchder dros Gymru, y Deyrnas Unedig, ei phobl a’r Frenhines.
Nawr, gydol y cyfyngiadau symud, mae wedi cadw gwên ar fy wyneb ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae wedi curo dwylo i’r gofalwyr. Mae wedi ein dysgu sut i wneud coffi Dalginba a’i frecwast arbennig. Dangosodd ei drefn ymarfer corff boreol, a dysgodd iaith Arwyddion Prydain. Yn gynharach yn y mis, rhannodd neges bwysig, y dylid rhoi diwedd ar hiliaeth. Diolch, Oscar. Ni fyddi di fyth yn angof. Dal ati i wenu, rwyt ti wedi gadael dy farc arnom a dylai pawb fod yn falch wrth ddilyn dy esiampl. Diolch.