Mae'n Wythnos Hosbisau Plant (22-28 Mehefin) a dylem i gyd ddod at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau hanfodol hyn yng Nghymru a sicrhau cyllid ar eu cyfer.
Galwodd Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Ofal Cymdeithasol, Plant a Phobl ifanc am weithredu cymunedol i "helpu ein hosbisau" yr wythnos hon.
Mae'n wir na allai hosbisau plant yng Nghymru barhau i ddarparu'r un lefel o wasanaeth oni bai am eich haelioni chi.
Wrth drafod y sefyllfa, meddai Mrs Finch-Saunders:
“Mae hosbisau'n rhoi cymorth a chefnogaeth amhrisiadwy i blant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Mewn gwirionedd, does unman arall y gallan nhw droi ato am y gofal a'r cymorth hanfodol hwn.
“Mae Tŷ Hafan yn llwyddo i wneud hyn er gwaetha'r ffaith ei bod hi'n costio dros £4miliwn y flwyddyn i ddarparu gofal a hwythau'n derbyn llai na 4% o gyllid statudol tuag at y ffigur hwnnw.
“Yn yr un modd, mae Tŷ Gobaith angen £6.5 miliwn i weithredu bob blwyddyn, er mai dim ond gwerth mis o incwm maen nhw'n ei dderbyn o ffynonellau statudol.
“Felly, mae ein dau hosbis yn ddibynnol arnoch chi a'ch haelioni i barhau i ofalu am blant a'u teuluoedd.
“Mae gan fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau hanes o geisio gweld Llywodraeth Cymru yn talu mwy, ond heb lwyddo eto.
“Yn ystod wythnos yr hosbisau, beth am gyfrannu i'r naill sefydliad neu'r llall yma yng Nghymru. Maen nhw wedi bod yn ofalgar gydol yr argyfwng presennol, felly gadewch inni ddangos ein gofal ni drostyn nhw trwy godi ymwybyddiaeth neu gyfrannu'r hyn a allwn ni."
DIWEDD
Nodiadau:
- Tŷ Hafan: Gallwch gyfrannu yma
- Tŷ Gobaith: Gallwch gyfrannu yma
- Wythnos Hosbisau Plant 2020