Wrth siarad ar ôl i set ddiweddaraf o ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar farwolaethau mewn cartrefi gofal gael ei chyhoeddi heddiw (3 Gorffennaf), meddai Janet Finch-Saunders AS - y Gweinidog Cysgodol dros Bobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:
“Dim ond ychydig wythnosau sydd wedi bod ers y newyddion brawychus bod 1,097 o drigolion wedi’u rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb gael eu profi am Goronafeirws.
”Mae’r feirws yn dal i fodoli, ac mae hynny’n cynnwys mewn cartrefi gofal. Gwelwn hyn yn yr ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw ac mae hyn yn golygu bod rhaid i ni barhau i fod yn wyliadwrus a diogelu ein pobl fwyaf
agored i niwed, a’r rhai sy’n gweithio mor galed i ofalu amdanyn nhw rhag COVID-19.
“Mae’r Gweinidog wedi addo profion bob pythefnos i drigolion, ond dydy’r rhain ddim wedi’u cyflwyno ym mhob ardal o Gymru eto.
“Ac felly, rydw i a’m cydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am weithredu hyn yn syth, neu’n galw ar Lywodraeth Cymru dan arweiniad y Blaid Lafur i gyhoeddi pam nad yw’n gwneud hyn neu’n gallu gwneud hyn.”
DIWEDD