Heddiw (22 Gorffennaf), anogodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig -Lywodraeth Cymru i dargedu’n ofalus eu cynlluniau adferiad economaidd i sbarduno ‘swyddi coler werdd’ sy’n cynorthwyo’r sectorau hynny sydd wedi’u heffeithio waethaf gan bandemig COVID-19.
Daeth ei sylwadau wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi bod £350 miliwn yn cael ei neilltuo i dorri allyriadau mewn diwydiant trwm a sbarduno adferiad economaidd ar ôl Coronafeirws. Bydd y pecyn buddsoddi yn helpu busnesau i ddatgarboneiddio ledled y diwydiannau trwm a’r sectorau adeiladu, gofod a thrafnidiaeth ac i sicrhau safle’r DU ar flaen y gad o ran arloesi gwyrdd.
Meddai Janet:
“Mae newid hinsawdd ymysg heriau mwyaf ein hoes. Mae adferiad COVID-19 ein cenedl yn cynnig cyfle heb ei ail i helpu i sbarduno creadigaeth swyddi coler werdd hirdymor a fydd yn helpu Cymru i fodloni ei thargedau allyriadau carbon yn fwy effeithiol yn y blynyddoedd nesaf.
“Mae’n ffaith drist bod y pandemig coronafeirws hwn wedi effeithio’n anghymesur ar sectorau twristiaeth, diwydiant trwm a chelfyddydau ein cenedl. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod unrhyw gynigion i fynd i’r afael ag adferiad gwyrdd y genedl, ynghyd ag unrhyw anghysondebau rhanbarthol, yn ystyried hyn.
“Fel yr wrthblaid swyddogol yn Senedd Cymru, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dal ati i ymgyrchu dros gynlluniau synhwyrol ac wedi’u targedu sy’n rhoi busnes yn gyntaf gan helpu i greu swyddi a thorri allyriadau.
“Mae angen arweinyddiaeth feiddgar ac arloesol i gynnal twf economaidd glân yn y dyfodol. Dyna pam mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn edrych ar gyflwyno cynllun dychwelyd cynwysyddion diodydd â blaendal drwy’r wlad er mwyn helpu i gefnogi newid ymddygiad ar raddfa fawr o ran sut mae Cymru yn delio gyda gwastraff.”
DIWEDD