Heddiw (4 Awst), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw am gynllun gweithredu Cymru gyfan i fynd i’r afael â throseddau yng nghefn gwlad.
Daw ei galwadau ar ôl i adroddiad blynyddol NFU Mutual am droseddau yng nghefn gwlad ddatgelu bod y troseddau hyn wedi costio £2.6 miliwn i fusnesau Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn gyffredinol, mae cost troseddau yng nghefn gwlad wedi cynyddu o 11.1% yn 2019 o’i gymharu â 2018. Mae’r cynnydd hwn yn uwch na’r cynnydd o 8% yn y DU ar gyfartaledd.
Wrth roi sylwadau ar y cynnydd mewn achosion, dywedodd Janet:
“Mae cost gynyddol troseddau yng nghefn gwlad yn achos pryder mawr i mi, gyda’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos ei bod yn broblem fawr o hyd i’n busnesau gwledig hollbwysig.
“Yn rhy aml o lawer, rwy’n clywed gan ffermwyr a gweithwyr amaethyddol sydd wedi dioddef lladron a rhwydweithiau troseddau cyfundrefol. Wrth ystyried bod yr eitemau hyn yn cael eu dwyn o dir sy’n gartref ac yn weithle i ffermwyr, mae’r troseddau hyn yn cael effaith feddyliol hirdymor yn aml.
"Gan fod 84% o ffermwyr dan 40 oed bellach yn credu mai iechyd meddwl yw’r perygl unigol mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant, mae troseddau cefn gwlad wedi dod yn bryder ychwanegol diangen ar gyfer ein harwyr amaethyddol.
"Mae’n rhaid i ni fynd ati i roi cynllun gweithredu ar waith ledled Cymru sy’n mynd i’r afael â throseddau yng nghefn gwlad a fyddai’n galluogi ein cymunedau gwledig a’r awdurdodau i rannu deallusrwydd ac arferion gorau. Gydag ardaloedd daearyddol mor fawr, dylai’r cynllun hefyd hyrwyddo buddsoddiad mewn technolegau gwledig sy’n cyd-fynd yn well â’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.”
DIWEDD
Ffotograff: Spencer Pugh/UnSplash