Heddiw (15 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo trefi arfordirol y Gogledd fel ‘cystadleuwyr o ddifrif i fod yn borthladdoedd rhydd’.
Daw ei galwad ar Weinidog Pontio Ewropeaidd Cymru ar ôl awgrym y bydd Llywodraeth y DU yn agor y broses o gynnig i drefi, dinasoedd a rhanbarthau fod yn borthladdoedd rhydd yng nghyllideb yr hydref, yn ddiweddarach eleni.
Yn siarad am ei chyfraniad i’r cyfarfod llawn heddiw, dywedodd Janet:
“Mae llawer o drefi arfordirol Cymru yn wynebu effeithiau negyddol hirdymor o ganlyniad uniongyrchol i bandemig COVID-19. Mae hyn yn achos pryder go iawn i’n trefi glan môr hyfryd, fel y rhai ledled Aberconwy.
“Gyda hyn mewn golwg, rwy’n croesawu’r newyddion fod y Canghellor yn paratoi i weddnewid deddfau cynllunio er mwyn gallu creu hyd at ddeg porthladd rhydd o fewn blwyddyn i’r DU o fod yn gwbl annibynnol ar yr Undeb Ewropeaidd.
“Law yn llaw ag ymrwymiad y Ceidwadwyr Cymreig i roi cyllid i drefi glan môr a marchnad ar ôl dod i rym y flwyddyn nesaf, mae’n amlwg y bydd gadael yr UE yn trawsnewid ffawd cyrchfannau arfordirol y wlad sy’n mynd trwy gyfnod anodd.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y cyfle hwn gyda’u dwy law a chydweithio â Llywodraeth y DU i helpu i hyrwyddo trefi arfordirol y Gogledd fel rhai a fydd yn ddelfrydol i fod yn borthladdoedd rhydd.”
DIWEDD