Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru heddiw (05 Awst) i gefnogi datblygiadau arloesol fel technoleg sy'n cysylltu cerbydau trydan â'r grid, fel ffordd o feithrin swyddi coler werdd hirdymor a datblygu cenedl o 'reolwyr ynni cynaliadwy'.
Daw ei sylwadau wrth i'r prif weinidog Boris Johnson gyhoeddi bod £350 miliwn yn cael ei ddarparu i dorri allyriadau mewn diwydiannau trwm a sbarduno adferiad economaidd wedi'r coronafeirws. Bydd y pecyn buddsoddi’n helpu busnesau i ddatgarboneiddio ac yn sicrhau bod y DU ar flaen y gad o ran arloesi gwyrdd.
Wrth wneud sylwadau ar ei chynigion, dywedodd Janet:
“Mae gan Gymru gyfle i fod ar flaen y gad o ran arloesi gwyrdd, drwy sbarduno newid trwy gamau polisi beiddgar. Mae technoleg arloesol fel cysylltu cerbydau â'r grid yn helpu i fwydo trydan yn ôl i'r grid cenedlaethol, sy'n cynorthwyo'r rhwydwaith ar adegau pan fo'r galw ar ei uchaf.
"Bydd y broses hon nid yn unig yn cynyddu apêl cerbyau trydan ac felly'n meithrin swyddi gweithgynhyrchu a pheirianneg hirdymor, ond bydd hefyd yn helpu i ddatblygu cenedl o reolwyr ynni cynaliadwy sy'n ymwybodol o faint o drydan y maen nhw'n ei ddefnyddio.
“Os yw Bae Caerdydd yn cydnabod o ddifrif y bydd newid hinsawdd ymhlith heriau mwyaf ein hoes, dylai Llywodraeth Cymru fod wrthi'n cynllunio adferiad COVID-19 sy'n helpu i ysgogi'r broses o greu swyddi coler werdd hirdymor. Mae hyn yn golygu ystyried pob ateb posib.
“Fel yr wrthblaid swyddogol yn Senedd Cymru, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i bwyso am gynlluniau busnes-yn-gyntaf sy'n helpu i leihau allyriadau, meithrin swyddi a sbarduno ein heconomi. Rwy'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried buddsoddi ymhellach yn y maes hwn er mwyn helpu i gyrraedd targedau allyriadau'r genedl"
DIWEDD