Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon bod 10,974 o anifeiliaid wedi’u lladd yng Nghymru yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd mis Mai 2020, mae Janet Finch-Saunders AS, y Gweinidog Cysgodol dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno camau brys i fynd i’r afael â bTB.
Meddai’r Gweinidog Cysgodol:
“Pan gefais fy mhenodi’n Weinidog Cysgodol dros Faterion Gwledig, fe ddywedais yn glir nad oeddwn yn fodlon aros am bum mlynedd cyn cyflwyno brechlyn posibl ar lefel fasnachol ar gyfer TB buchol.
“Mae’r data sydd wedi’i ryddhau’r wythnos hon yn datgelu bod 10,974 o anifeiliaid wedi’u lladd yn ystod y 12 mis hyd at fis Mai 2020, gan gynnwys cynnydd o 36% yn yr ardal ag achosion isel o bTB.
“Mewn gwirionedd, nid yw sefyllfa’r clefyd wedi newid yng Nghymru, ac mae llawer o wartheg yn cael eu lladd er gwaetha’r ffaith fod mesurau rheoli gwartheg a bioddiogelwch cadarn wedi’u cyflwyno.
“Mae pobl yn colli eu bywoliaeth ac mae teuluoedd ffermio yn wynebu pryderon iechyd meddwl difrifol. Hyd yn oed yma yn Aberconwy, sy’n ardal risg isel, rwy’n gwybod bod ffermwyr eisoes yn poeni mai dim ond mater o amser yw hi nes bod y clefyd yn cyrraedd ein hardal ni.
“Mae’n rhaid mynd i’r afael â TB buchol yn gyffredinol, gan gynnwys cyflwyno mesurau gwartheg, bioddiogelwch, a mynd i’r afael â chronfeydd clefyd mewn bywyd gwyllt.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau brys ar waith i gyflwyno dull dwy elfen sy’n cynnwys mynd i’r afael â’r clefyd ymysg bywyd gwyllt. Er enghraifft, er bod Llywodraeth Cymru eisoes yn rhoi trwyddedau ar gyfer lladd moch daear sydd wedi’u profi’n bositif am TB buchol, mae nifer y trwyddedau a roddwyd yn isel.
“Er bod miloedd o wartheg yn cael eu lladd bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd y clefyd, nid oes digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa ymysg bywyd gwyllt. Mae’n rhaid newid y sefyllfa hon a rhoi diwedd ar y trallod a’r ofn sy’n wynebu llawer o deuluoedd yng nghefn gwlad Cymru oherwydd polisi aneffeithiol Llywodraeth Cymru”.
DIWEDD
Nodiadau: